Rhaglen Mewnwelediad
Mae'r Rhaglen Mewnwelediad yn darparu mewnwelediad diweddaraf i fusnesau bwyd a diod o Gymru i ddeall y farchnad manwerthu groser a marchnad bwydydd a gwasanaethau bwyd y tu allan i'r cartref yng Nghymru a Phrydain Fawr. Mae'r rhaglen yn darparu mewnwelediad marchnad allforio sy'n cwmpasu 50 o wledydd ledled y byd. Yn ogystal â data'r farchnad, mae'r rhaglen Mewnwelediad yn edrych ar dueddiadau a mewnwelediadau yn y dyfodol, i helpu busnesau Cymru i lunio eu cynlluniau i fodloni gofynion newidiol cwsmeriaid a defnyddwyr.
Cynhadledd Mewnwelediad 2023: Ymdrechu a Ffynnu
Mae cynhadledd Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru eleni yn cynnwys 5 sesiwn â thema dros 4 diwrnod, yn mynd i'r afael â'r Sefyllfa Economaidd, Allforio, Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD), Manwerthu, ac Oddi Allan i'r Cartref. Cawsom amrywiaeth cyffrous o siaradwyr o bartneriaid mewnwelediad o'r radd flaenaf, megis Kantar, IGD, CGA a thefoodpeople, yn ogystal ag arbenigwyr o'r Rhaglen Mewnwelediad. Roedd trafodaethau panel ac astudiaethau achos gyda busnesau yn arddangos sut all eich busness chi ddefnyddio mewnwelediad i ymdrechu a ffynnu.
Gall Aelodau clicio ar y ddolen isod i gael mynediad at yr holl ddeunyddiau cynhadledd, gan gynnwys fideos o'r holl gyflwyniadau ar becynnau sleidiau.
Cynhadledd Mewnwelediad 2023: Ymdrechu a Ffynnu | Business Wales - Food and drink (gov.wales)
Cyfeiriadur Rhaglen Mewnwelediad
Cliciwch isod i weld y cyfeiriadur o'r adroddiadau sydd ar gael i Aelodau. Mae pob adroddiad wedi’i grynhoi ac yn gysylltiedig â’r cyflwyniad gwreiddiol:
Gall unrhyw un o'r grwpiau clwstwr a chanolfannau technoleg bwyd gael cymorth, neu beth am ymuno ag ardal yr Aelodau gallwch weld yr adroddiadau diweddaraf a gwybodaeth fanwl am wahanol farchnadoedd.
Rydym wedi bod yn prynu data ers 2015 gan darparwyr fel Kantar, CGA, Euromonitor International, IGD, a Thefoodpeople.
Mae Aelodau gyda mynediad at ddata a dadansoddiadau sy'n cynnwys:
- Data perfformiad categori ar draws Cartref o Brydain o gymharu â Cymru
- Adolygiadau manwerthu categori elw gros o Brydain o gymharu â Cymru
- Mae Data Diodydd y Tu Allan i'r Cartref yn darparu adolygiad o Gymru a Phrydain ar werthiannau Masnach.
- Sylfaen ddata fyd-eang y farchnad allforio sy'n cwmpasu 50 o wledydd ar gyfer Bwyd ac Alcohol
- Cyflwyniadau Tueddiadau Bwyd a Diod yn y Dyfodol
- Cronfa ddata Tuedd Bwyd y Dyfodol yn rhannu arloesedd byd-eang