Mae'r tir hwn yn ein cynnal ni

Rydym ni wastad wedi byw oddi ar y tir, felly fuon ni erioed yn brin o bethau da i'w bwyta a'u hyfed. Dim problem felly. Ond yn ddiweddar rydym ni wedi dechrau meddwl: ac, a dweud y gwir, efallai ei fod e’n broblem...

Rydym ni wedi bod yn gwneud hyn ers canrifoedd, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, mewn tir o borfeydd, mynyddoedd, perllannau, coedwigoedd ac afonydd, wedi'u hamgylchynnu gan arfordir 1,400km. Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi dod yn eithaf da am wneud hyn.

Mae gan ein bwyd a'n diod gysylltiad dwfn â'r dirwedd, y bobl a'r diwylliant. Rydych chi’n gofalu am y tir, ac mae’r tir yn gofalu amdanoch chi. Yn fwy diweddar, rydym ni hefyd wedi dysgu ein bod ni’n rhan o ddarlun mwy. Mewn ecosystem fyd-eang, mae pethau fel cyfrifoldeb amgylcheddol, cynaliadwyedd, y gallu i olrhain a chyfiawnder cymdeithasol yn wirioneddol bwysig.
Fyddwn ni byth yn gynhyrchydd bwyd mwyaf y byd. Nid caeau gwenith llydan a phlanhigfeydd olew palmwydd yw’n pethau ni. Felly, gwnawn ni barhau gyda’r hyn rydym ni’n dda am ei wneud: bwyd a diod o ansawdd uchel sydd wedi'u cynhyrchu'n foesegol. Bwyd da sy'n onest, iach a hapus.

Gallwch ddysgu mwy am y weledigaeth sydd yn sail i’n strategaeth i’r dyfodol drwy fynd i’r tudalennau Gweledigaeth Strategol ar ein gwefan.

Cefnogi diwydiant bwyd a diod cynaliadwy yng Nghymru

Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y Byd.

Gwneud gwahaniaeth

Mae’r holl gynhwysion cywir gennym ni. Ond mae'n cymryd sgil a dychymyg i'w troi nhw'n rhywbeth arbennig iawn. Dyma'r bobl sy'n gwneud i hynny ddigwydd.

Wedi'u creu â llaw

Ansawdd, nid maint, sy’n bwysig. Mae gan ein cynnyrch mwyaf nodedig o Gymru statws gwarchodedig, sy’n golygu eu bod nhw ymysg rhengoedd bwydydd mwyaf eiconig y byd.

Ryseitiau

Beth am roi cynnig ar un o'n ryseitiau blasus, a nodedig Gymreig? Wedi'u creu gyda chariad a gofal gan arbenigwyr bwyd, chewch chi mo’ch siomi – mae hynny’n sicr.