Papur Ymgynghori
Ein huchelgais i ddatblygu sector bwyd a diod Cymru ymhellach
Ymgynghorwyd ar gynllun strategol olynol yn 2019 i adeiladu ar ein cyflawniadau a'n nod yw cwblhau hynny pan ddaw argyfwng Covid I ben.
Yng Ngorffennaf 2019 cyhoeddwyd papur ymgynghorol: Ein huchelgais i ddatblygu sector bwyd a diod Cymru ymhellach Diolch i bawb a gymerodd eu hamser i gyfrannu. Gellir gweld crynodeb o'r ymateb yma.
Dadansoddiad o Ganfyddiadau'r Ymgynghoriad
Cytunodd yr ymatebwyr gyda'n cenhadaeth arfaethedig i ddatblygu diwydiant bwyd a diod ffyniannus drwy gydweithio â'r sector i gyflawni'r nodau strategol a ganlyn:
- • I dyfu cwmpas, gwerth a chynhyrchiant ein busnesau, drwy dargedu buddsoddiadau, cymorth, arloesedd a gweithgarwch cydweithio drwy gadwyni cyflenwi, a thrwy greu llwybrau cadarn ac amrywiol i farchnadoedd y DU a marchnadoedd allforio.
- • I fod o fudd i'n pobl a'n cymdeithas drwy ddarparu gyrfaoedd deniadol a gwaith teg sy'n ymrwymedig i ddatblygu sgiliau'r gweithlu, gan ddefnyddio adnoddau'n gynaliadwy, ac annog busnesau i chwarae rhan mewn mynd i'r afael ag iechyd y cyhoedd a thlodi.
- • I greu a chyfathrebu enw da Cymru ar draws y byd fel Cenedl Fwyd gan arddangos ein sector drwy Blas Cymru, gan ddatblygu a byw ein gwerthoedd brand cynaliadwy, gan fabwysiadu'n eang ein safonau uchel o ran cynhyrchu ac achredu, a dathlu llwyddiannau busnesau.
“Os na fyddwn yn ymgynghori ynghylch y llwyddiannau rydym wedi’u cael ac yn eu deall, ac os na fyddwn yn trafod ein gobeithion ac yn ystyried y llwyddiannau yr hoffem eu cael yn y dyfodol rydym yn colli cyfle. Credaf ei fod yn bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori â chynhyrchwyr bwyd fel ni oherwydd maen nhw’n cael clywed am yr heriau rydym yn eu hwynebu bob dydd. Mae rhai o’r heriau hyn yn ymwneud â’r ffordd rydym yn ceisio datblygu ein busnes, a’r cymorth rydym wedi’i dderbyn drwy’r Llywodraeth. Mae’r clystyrau bwydydd da hefyd wedi ein helpu i feddwl am y materion hynny. Po fwyaf y mae’r sector cyhoeddus yn gwahodd y sector preifat i gyfrannu at eu trafodaethau y gorau yw’r canlyniadau i bawb. Rydym wedi derbyn cefnogaeth gwbl wych ac mae’r cydweithredu wedi ein helpu i greu enw i’r brandiau. Credaf ei fod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori â chynhyrchwyr fel ni wrth iddi geisio llywio’r diwydiant yma yng Nghymru at y dyfodol. Mae gennym gynnyrch unigryw a blaengar iawn ac rydym yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn dangos bod Cymru ar y blaen ac y gall gweddill y byd ddysgu llawer gennym.”
Gadewch i ni glywed gan dri busnes sy’n rhannu eu profiadau
TREGROES WAFFLES
“Gwnaethom gychwyn y busnes ym 1983. Ein nod bryd hynny oedd gweithio am dair blynedd er mwyn gallu prynu fferm fach. Ni ddigwyddodd hynny! Ar ôl 10 mlynedd gwnaethom drosglwyddo o broses â llaw i linell cynhyrchu. Nid oedd unrhyw frand Cymreig nôl yn yr wythdegau a dyma un o lwyddiannau mawr Llywodraeth Cymru yn fy marn i. Mae’r Llywodraeth wedi codi ymwybyddiaeth pobl o fwydydd Cymreig. Gwnes gychwyn gwerthu’r cwmni Cymreig i’m staff dair blynedd. Mae bywyd yn rhy fyr ac mae’n bwysig ymfalchïo yn yr hyn rydych wedi’i gyflawni. Rwy’n awyddus i sicrhau bod ein staff yn teimlo bod y cwmni yn eiddo iddyn nhw.”
BUG FARM
“Cychwynnodd y Bug Farm nôl yn 2013 fel fferm waith a oedd hefyd yn ganolfan ymchwil. Cafodd yr atyniad i ymwelwyr ei lansio yn 2016 a gwnaeth fy mhartner sef y Cogydd Andy Holdcroft lansio Grub Kitchen ar yr un pryd. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw sicrhau cadwyni cyflenwi cadarn er mwyn diogelu dyfodol bwyd, ac rydym yn gweithio tuag at hyn ar hyn o bryd. Hoffem sicrhau bod cadwyn gyflenwi o’r pridd i’r plat wedi’i lleoli yng Nghymru. Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru ac ni fyddem yma heddiw heb y gefnogaeth honno.”
THE PARSNIPSHIP
“Cychwynnom arni tua 12 o flynyddoedd yn ôl – roeddem yn arfer gweithredu o’r cartref ond rydym wedi tyfu bob yn dipyn dros y blynyddoedd i mewn i uned sydd bellach yn gegin gynhyrchu. Rydym wedi cael amrywiaeth o fathau o gymorth dros y blynyddoedd, gan gynnwys cymorth yn ddiweddar i’n helpu i gael achrediad SALSA. Mae’n agor mwy o farchnadoedd inni gael gwerthu cynhyrchion ynddynt ac i weithio gyda rhai cwmnïau mawr i ddosbarthu ein cynhyrchion ar draws y wlad”.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Bydd unrhyw fanylion personol yr ydych yn ei ddarparu fel rhan o'n trafodaethau yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Gweler wedi'i atodi ein Hysbysiad Preifatrwydd, gan gynnwys manylion sut y byddwn yn defnyddio eich ymateb a'ch hawliau o dan y rheoliadau hyn