Sut gallwn ni helpu
Mae bwyd a diod yn sector blaenoriaeth economaidd yng Nghymru, gyda 170,000 o bobl yn cyfrannu at werthiannau gros o £17.3 biliwn.
Mae gennym weithlu medrus, cyfleusterau blaengar, cadwyn gyflenwi aeddfed, cymorth busnes o’r dechrau i’r diwedd ac academyddion ac ymchwilwyr sy’n gwthio ffiniau technoleg bwyd – popeth ar gyfer datrysiad priodol.
Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir
Mae'r twf byd-eang o ran Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir (CEA) yn cynnig atebion i rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu diogelwch bwyd yng Nghymru. Mae'r prosbectws hwn o'r sector CEA yng Nghymru yn nodi ein gweledigaeth a'n cenhadaeth ar gyfer y diwydiant CEA ehangach. Mae'r ddogfen yn manylu ar gynnig cyfannol Cymru i fuddsoddwyr ym maes CEA. Mae’n cyflwyno hefyd achos grymus dros ddewis Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ym maes CEA yn ychwanegol at rannau eraill o'r DU. Nod y prosbectws yw ateb yr holl gwestiynau a ofynnir fel arfer gan fuddsoddwyr ac mae'n nodi ac yn cyfeirio at bob ffynhonnell gymorth.