Cynlluniau Dynodiad Daearyddol Newydd y DU (GI y DU)

Sicrhau lle canolog i Fwyd a Diod o Gymru

'Dynodiad Gwarchodedig' (GI): Term mor ddiymhongar, ond un sy'n gwneud byd o wahaniaeth pan ddaw i rannu ein balchder yn y bwyd a diod gorau o Gymru. P'un a yw defnyddwyr yn chwilio amdanynt yng Nghymru neu ar draws y byd, gall cynhyrchion o Gymru â statws GI hawlio ansawdd, dilysrwydd a threftadaeth unigryw eu tarddiad naturiol.

Heddiw, mae 19 o eitemau ar restr nodedig GI Cymru. O Halen Môn i Ham Caerfyrddin, ac o Gaws Caerffili Cymreig Traddodiadol i Gig Oen Cymreig PGI a Chig Eidion Cymreig PGI, gyda bara lawr, gwin a mwy, mae gwledd o gynhyrchion Cymreig balch, sy'n mwynhau statws GI a chwenychir. Yn wir, gyda'r holl Gymreictod sy'n perthyn i'r cynhyrchion arbennig hyn, efallai y dylai 'GI' sefyll am 'Gwirioneddol (E)iconig'!

Lle ar y brig

Mae Bwyd a Diod Cymru wedi ymrwymo i ehangu'r ystod o fwyd a diod o Gymru sydd â marc ansawdd GI. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i annog a chefnogi ceisiadau GI gan bob is-sector yng Nghymru. Yn wir, mae'r broses GI yn clodfori cynhyrchion bwyd a diod o Gymru a all adrodd eu straeon am arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, a phob un â brwdfrydedd dros eu tarddiad unigryw.

NEWYDD: Cynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU

Mae cynlluniau dynodiad daearyddol newydd y DU (GI y DU) wedi cael eu sefydlu yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE. Mae'r cynlluniau newydd hyn yn bodloni ein rhwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd.

Bydd cynlluniau'r DU yn gwarchod enwau daearyddol:

  • bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol
  • gwirodydd
  • gwin
  • gwin aromatig

Mae gan gynlluniau newydd y DU logos a phrosesau newydd ar gyfer ymgeisio am, a dyfarnu statws GI, ond bydd y dynodiadau yn parhau'r un fath â chynlluniau GI cyfredol yr UE:

Mae cynlluniau'r DU ar agor i gynhyrchwyr o'r DU a gwledydd eraill

Mae holl gynhyrchion y DU sydd eisoes yn bodoli wedi'u cofrestru o dan gynlluniau GI yr UE yn parhau i gael eu gwarchod yn awtomatig o dan gynlluniau GI y DU.

Mae cynhyrchwyr sy'n ceisio gwarchod cynhyrchion newydd yn gallu gwneud cais i gynllun GI perthnasol y DU. Ar gyfer cynhyrchion newydd, bydd cyflawni statws GI y DU hefyd yn "gam ymlaen" i'r rheiny sy'n dymuno mynd ymlaen i ymgeisio am statws GI yr UE.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am:

  • reoli cynllun y DU
  • cynnal y gofrestr o enwau gwarchodedig o dan y cynllun GI
  • prosesu ceisiadau newydd.

I gael cyngor ac arweiniad ar sut i wneud cais i gynlluniau GI y DU a gwybodaeth am logos GI newydd y DU a phryd i'w defnyddio, dilynwch y ddolen isod:

https://www.gov.uk/guidance/protected-geographical-food-and-drink-names-uk-gi-schemes

Hyrwyddo eich cynhyrchion gartref a thramor

Ers 2009, mae cynllun GI Llywodraeth Cymru wedi galluogi ystod unigryw o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i ymuno â'r teulu GI. Ar ôl ymuno, mae'r cynhyrchion hyn yn elwa o statws gwarchodedig a gweithgarwch hyrwyddo parhaus ar-lein ac mewn digwyddiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor arbenigol ar sut i gymhwyso ac ymgeisio am le yn y rhestr nodedig hon o fwyd a diod gwreiddiol o Gymru. . Am wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio am GI y DU neu statws gwarchodedig cysylltwch ag UKGI.Wales@gov.wales

Dewch i gwrdd â'r teulu GI Cymreig

Darganfyddwch fwy am y teulu GI Cymreig drwy ein map rhyngweithiol a’r proffiliau cynnyrch isod.