Mêl Grug Cymru PGI
Mae Mêl Grug Cymru yn fêl nodweddiadol, hollol naturiol a gynhyrchir gan Wenyn mêl y Gorllewin (Apis mellifera) sy’n chwilota ar hyd a lled rhostiroedd grug bywiog Cymru. Yn bennaf o Rug Ling, rhywogaeth grug mwyaf cyffredin Cymru, mae’r mêl yma’n adlewyrchu harddwch cryf ei darddle.
Caiff ei gynaeafu rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, felly gall y cyfnod cynhyrchu ar gyfer Mêl Grug Cymru fod yn eithaf byr, yn dibynnu ar amodau’r tywydd. Mae’r tymor byr yma a’r cydbwysedd cain rhwng chwilota, tynnu’r mêl a chyn lleied â phosibl o brosesu, yn golygu ei fod yn gynnyrch anghyffredin a hynod werthfawr.
Fel y gellir disgwyl, mae Mêl Grug Cymru yn hollol naturiol a heb ei basteureiddio, gan gadw felly ensymau naturiol a nodweddion unigryw neithdar y grug. Trwy ddefnyddio cyn lleied â phosibl o hidlo, gellir sicrhau fod y gronnynau paill a’r maetholion yn aros yn y mêl, gan gyfoethogi’r cynnwys o ran protein ac yn arwain at ansawdd cyfoethog, cadarn. Mae presenoldeb swigod aer yn arwydd o natur bur y mêl, sydd heb ei brosesu.
Mae Mêl Grug Cymru’n enwog am ei nodweddion thicsotropig sy’n golygu fod ganddo ansawdd debyg i gel sy’n troi’n hylif wrth ei droi. Mae’r lliw ambr twfn, a’r blas cadarn, aromatig yn golygu ei fod yn hollol wahanol i unrhyw fêl arall. Yn aml, ystyrir ei fod yn llai tryloyw, ond mae’r proffil blas cymhleth – gyda blas y pridd a nodweddion blodeuog ysgafn — yn golygu fod llawer o ofyn amdano, ac mae’n eich atgoffa am daffi llawn menyn a charamel melys wedi’i losgi.
Pa un ai eich bod yn mwynhau’r mêl ar dôst, mewn paned o dê, neu fel cynhwysyn archwaethus, mae Mêl Grug Cymru yn cynnig blas go iawn ar Gymru, ac mae pob llwyaid yn eich clymu â’r rhostiroedd gwyllt, naturiol. Mae’n arwydd o grefftwaith unigryw a pherffeithrwydd natur, ac yn dyst i gyfoeth o dreftadaeth naturiol sy’n ffynnu yma yng Nghymru.