Llwybr i’r farchnad
Ein nod yw hybu trosiant bwyd a diod yng Nghymru 30% erbyn 2020, ac mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yma i helpu, gan gynnwys datblygu cyfleoedd i gynhyrchwyr gyflenwi’r sector cyhoeddus drwy Wasanaeth Caffael, a ddefnyddir gan 70 o gyrff sector cyhoeddus.
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi llacio oriau gyrwyr ymhellach - ar gyfer pob sector sy'n cludo nwyddau ar y ffordd yn ddilys o ddydd Llun 23 Mawrth tan ddydd Mawrth 21 Ebrill. (Saesneg yn unig)
Mwy o fanylion yma (Saesneg yn unig)
https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-on-drivers-hours-relaxations
Cymorth Storio Preifat (CSP): Llaeth a Chig
(Saesneg yn unig)
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu cynigion i ddarparu cymorth ychwanegol i'r diwydiant llaeth a chig oherwydd y pandemig presennol o coronafeirws (COVID-19).
Storfeydd Oer yng Nghymru
Mae’r adroddiad cryno hwn yn rhoi trosolwg o gapasiti storfeydd yng Nghymru, gan ystyried a oes tystiolaeth o blaid ymyrryd yn y farchnad i gefnogi cynhyrchwyr a dosbarthwyr lleol. Mae’n canolbwyntio ar roi gwybodaeth fanwl i bartïon â diddordeb am ddiffiniadau, strwythur y farchnad, tueddiadau o ran galw a chyflenwad a heriau tymor byr.
Rhoi hwb i drosiant
Ein hymrwymiad yn y ddogfen Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-20 yw cynyddu trosiant yn y sector bwyd a diod 30% erbyn 2020. Fel rhan o gynigion ehangach i gefnogi’r sector, mae’n cyflwyno cynlluniau i ddatblygu rhagor o gyfleoedd i gwmnïau o Gymru gyflenwi’r sector cyhoeddus, marchnad sy’n werth £74 miliwn ar hyn o bryd. Mae gwariant gyda chwmnïau o Gymru, yn gynhyrchwyr ac yn ddosbarthwyr, yn cyfrif am £47.1 miliwn o’r cyfanswm hwn, gyda’r sectorau bwyd ffres fel cynnyrch llaeth a chig yn cyfrif am gyfran fawr.
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod
Sefydlwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2013 ac mae’n dod â chaffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus at ei gilydd, ar sail ‘unwaith i Gymru’.
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae 73 o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru – gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG, cyrff addysg, gwasanaethau tân a’r heddlu a Cyfoeth Naturiol Cymru – wedi ymrwymo i ddefnyddio contractau a fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
Bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnwys bwyd a diod yn 2015 ac mae’n datblygu strategaeth fwyd i nodi beth fydd yn cael ei wneud fesul sector i fwrw ymlaen â hyn.