Allforio

Mae allforio’n golygu gwerthu mwy, a mwy o elw. Ond mae’n bwysig cynllunio a pharatoi’n ofalus er mwyn cael mantais gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i deilwra cymorth sy’n benodol i’ch anghenion, gan gyfeirio at y Rhaglen Cefnogi Allforio.



City skyline

Pam Allforio?

Gall allforio drawsnewid eich busnes. Mae gwerthu mwy a mwy o elw’n fanteision amlwg – ond mae masnachu’n rhyngwladol yn arwain at sawl mantais gystadleuol arall i chi. Drwy ymateb i farchnadoedd heriol, byddwch yn dod yn fwy hyblyg, creadigol ac arloesol, byddwch yn fwy effeithlon, yn ymestyn cylch bywyd eich cynnyrch ac mae’r risg yn cael ei thaenu ar draws sawl marchnad. Ond mae’n rhaid paratoi’n ofalus. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n barod ar gyfer marchnad fwy? Beth ddylwn i roi sylw iddo’n gyntaf? Ydy fy nghynnyrch neu fy ngwasanaethau’n barod? Oes gen i’r adnoddau a’r wybodaeth? A beth am gludo, rheoliadau, trethi a deddfau mewnforio ac ati?
 


Ystradegau ynghylch Bwyd a Diod o Gymru a gafodd eu hallforio

Mae Bwletin Blynyddol Alforio Bwyd a Diod Cymru yn rhoi gwybodaeth ar werth a nifer yr allforion bwyd a diod, wedi'u dadansoddi yn ol catergoriau a rhanbarthau, gan hefyd dynnu sylw at y prif dueddiadau.

Mae pob Bwletin Allforio Blynyddol Bwyd a Diod Cymru sydd wedi’u rhyddhau i’w gweld yn Adran Perfformiad Bwyd a Diod Cymru.


Cymorth i Allforio

Drwy ein rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol, byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i ddatblygu eich strategaeth allforio; dewis y farchnad orau i chi; diffinio eich llwybr i’r farchnad; edrych ar yr ystyriaethau ariannol a’r gweithdrefnau, y rheoliadau a logisteg allforio.

Rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol

Mae ein rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol yn arwain at gyfleoedd yn y farchnad o’ch dewis, ac yn eich tywys drwy wahanol ieithoedd a diwylliannau. Mae ein cysylltiadau byd-eang yn eich helpu i gysylltu â phartneriaid neu gwsmeriaid, ac arbenigwyr sy’n siarad yr iaith, rhoi cyngor ynghylch rheoliadau ac amodau masnachu lleol ac yn canfod darpar gwsmeriaid, asiantau neu ddosbarthwyr.Byddant hefyd yn trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb ac yn dod i'r cyfarfodydd gyda chi.

Rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol

Os hoffech ymweld â chysylltiadau busnes dynodedig neu fynd i arddangosfeydd masnach i sefydlu eich presenoldeb yn y farchnad neu i sicrhau contractau a datblygu rhagor o gyfleoedd, gallwch wneud cais am gyllid drwy’r grant ar gyfer                                

Ymweliadau Tramor i Ddatblygu Busnes

Rydym yn eich helpu i gyrraedd eich marchnad mewn sawl ffordd. Gallech ddod i bafiliwn Bwyd a Diod Cymru mewn sioeau masnach fyd-eang a phwrpasol, sy'n galluogi busnesau i ddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau ar lwyfan y byd.

 

Mwy o help gan gyrff masnach rhyngwladol

Mae sefydliadau fel yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a Chymdeithas Allforwyr Bwyd & Diod (FDEA) yn cynnig help ychwanegol i sicrhau llwyddiant i fusnesau mewn marchnadoedd byd-eang. Mae’r Adran yn darparu gwasanaeth arweiniadau allforio rhyngwladol am ddim ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar-lein bob mis am gyfleoedd busnes mewn dros 100 o farchnadoedd byd-eang. Mae’r Gymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod yn gorff masnach pwrpasol lle gael yr aelodau sy’n allforwyr o'r un anian rannu manteision profiad datblygu busnes rhyngwladol sylweddol.