Gwerth “Cymreictod”
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o ymchwiladau i ddeall yn well "Gwerth Cymreictod" i siopwyr a gwesteion yng Nghymru ac ar draws Prydain Fawr. Mae pob darn o ymchwil yn dangos bod siopwyr a gwesteion yn dymuno cael mwy o Fwyd a Diod o Gymru mewn lleoliadau manwerthu a lleoliadau allan o'r cartref.
Teitl | Disgrifiad |
---|---|
Gwerth Cymreictod 6 – Bwyta ac Yfed Allan o’r Cartref (2023) |
Ymchwil ddiweddaraf Gwerth Cymreictod y Rhaglen Mewnwelediad. Mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi cipolwg allweddol ar agweddau gwesteion a lleoliadau tuag at fwyd a diod Cymru allan o’r cartref gan bwysleisio yr hoffai gwesteion weld mwy o fwyd a diod Cymru allan o'r cartref. Mae hefyd yn darparu manylder ynghylch pwysigrwydd bwyd a diod Cymru pan fydd gwesteion yn dewis lleoliad. |
Mae'r cyflwyniad hwn yn cynnwys mewnwelediad newydd i awydd cwsmeriaid am Gymreictod yn dda. |
|
Gwerth Cymreictod 4 – Bwyta ac Yfed Allan o’r Cartref (2021) (Saesneg yn unig) | Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi cipolwg allweddol ar agweddau gwesteion a lleoliadau tuag at fwyd a diod Cymru allan o’r cartref, gan bwysleisio yr hoffai gwesteion weld mwy o fwyd a diod Cymru allan o’r cartref. Mae hefyd yn darparu manylder ynghylch agweddau’r sector cyhoeddus tuag at fwy o Gymreictod. |
Gwerth Cymreictod 3 - Ymchwil fanwl i asesu agweddau defnyddwyr tuag at gynnyrch a brandio Cymru |
Mae’n hanfodol deall sut mae siopwyr yn gweld bwyd a diod Cymru er mwyn adeiladu brandiau Cymreig cryf sy’n gallu ffynnu mewn marchnad gystadleuol a dynamig. Yn y gwaith ymchwil hwn, rydym yn ymdrechu i ddadansoddi emosiynau defnyddwyr sy’n gysylltiedig â Chymru a’u cysylltiadau â bwyd a diod o Gymru. Y nod yw deall lle y mae’r cysylltiadau gryfaf, sut y gellir cyfleu nodweddion Cymru drwy iaith, brandio a phecynnu a sut y gall cynhyrchwyr Cymru fanteisio i’r eithaf ar eu potensial. |
Gwerth Cymreictod 2 - Awydd Siopwyr i Brynu Cynhyrchion o Gymru | Dangosodd ymchwil fod siopwyr o Brydain Fawr a Chymru o’r farn bod bwyd a diod o Gymru yn eithriadol o dda – gan ddweud eu bod yn naturiol ac yn ffres a bod yr ansawdd yn rhagorol. Gyda chymeradwyaeth mor gryf ar gyfer cynhyrchion o Gymru, roedden ni am weld sut roedd siopwyr yn ymddwyn mewn gwirionedd pan oedden nhw’n siopa, i wirio a oedd siopwyr yn prynu cynhyrchion o Gymru pe bai dewis ganddyn nhw. |
Gwerth Cymreictod 1 - Bwyd a Diod o Gymru mewn Atyniadau Ymwelwyr | Comisiynwyd yr astudiaeth gan Lywodraeth Cymru a oedd eisiau cael gwell dealltwriaeth o’r graddau y mae bwyd a diod o Gymru yn cael eu darparu mewn atyniadau ymwelwyr yng Nghymru; eu rhesymau am wneud hynny / am beidio â gwneud hynny; ac i ba raddau mae ymwelwyr yn dymuno prynu cynnyrch lleol o Gymru. |