Rhwydwaith Clwstwr

Mae Rhwydwaith Clwstwr Bwyd a Diod Cymru yn dwyn ynghyd fusnesau bwyd a diod, cyflenwyr, y byd academaidd a'r llywodraeth gyda'r amcan allweddol o helpu busnesau i gydweithio i sicrhau twf cyflym mewn gwerthiant, elw a gwell cynhyrchiant.

Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r sectorau bwyd a diod wedi llunio sawl  Grŵp Clwstwr yn strategol. Mae'r clystyrau hyn wedi'u datblygu i sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl yng Nghymru a hefyd i ymateb i’r sectorau y mae angen cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru arnynt. Maent yn dod â phobl o'r un anian ynghyd, gyda'r nod allweddol o helpu busnesau i gydweithio a chyflawni nodau busnes cyffredin.

Mae gan y Rhwydwaith Clwstwr yng Nghymru hanes profedig o lwyddiant, a bydd yn parhau i fod yn uchelgeisiol i gefnogi'r diwydiant i gyflawni newid sylweddol yn hytrach na thwf fesul cam.

Bydd y Rhwydwaith Clwstwr yn rhoi cymorth a chyngor i fusnesau bwyd a diod. Bydd yn hwyluso cyfleoedd i weithio gyda busnesau eraill ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnig atebion i helpu a chefnogi ei gilydd i oresgyn yr hyn sy’n atal twf, ac i fanteisio ar gyfleoedd masnachol, yn ogystal â helpu i ddatblygu gallu a chapasiti.

Ar hyn o bryd mae 9 clwstwr yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu darparu gan gontractwyr allanol arbenigol.


Rhaglen Partneriaeth Arloesi ar Waith

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gwahodd prosiectau cydweithredol i ddatblygu atebion arloesol ym maes bwyd a diod sy’n ymdrin â heriau cymdeithasol a heriau yn y sector cyhoeddus neu broblemau cyffredin sy’n wynebu grwpiau bach o fusnesau yn y diwydiant bwyd a diod.

 Llyfryn Bwyd a Diod Cymru Rhwydwaith Clwstwr


Y Clwstwr Uwchraddio Cynaladwy

Clwstwr Uwchraddio Cynaladwy / Sustainable Scale Up Cluster logo

Helpu busnesau bwyd a diod uchelgeisiol o Gymru i uwchraddion'r gynaliadwy.

Bydd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn cefnogi busnesau i fynd i'r afael â'r 4 her allweddol er mwyn uwchraddio'n llwyddiannus.

  • Y GALLU i uwchraddio
  • Mynediad i GYFALAF er mwyn uwchraddio
  • Mynediad at y CYMWYSTERAU a'r dalent gywir er mwyn uwchraddio
  • YR HYDER i uwchraddio ac i osgoi'r trap goddiweddyd

Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth: https://www.sustainablescaleupcluster.wales/?lang=cy

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a arienir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Cyflwynir gan BIC Innovation.

EAFRD logo

 


Clwstwr Mêl

Nod y Rhaglen Datblygu Busnes yw galluogi busnesau mêl Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi’r sector i dyfu trwy ddarparu cefnogaeth benodol - mae’r rhaglen Clwstwr yn enghraifft o’r gefnogaeth hon. 

 

 

 

 

 

Wele'n felys

Map sy'n amlinellu'r holl wenynwyr yng Nghymru sydd wedi cofrestru drwy brosiect Cywain neu clwstwr Mêl sy'n cynhyrchu mêl i'w werthu, er mwyn i chi allu canfod y cynhyrchwyr agosaf atoch chi.

 


Garddwriaeth Cymru

Nod Garddwriaeth Cymru yw helpu tyfwyr a chynhyrchwyr i leihau gwastraff a gwella oes silff, cynaliadwyedd ac elw. 

Comisiynodd prosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Wrecsam Glyndwr gyfres o ffilmiau byrion er mwyn dangos yr amrywiol ffyrdd y bu busnesau - pob un ohonynt yn aelodau o'r prosiect - yn gweithio i gefnogi cymunedau ledled Cymru yn ystod y pandemig C-19, o gyfyngiadau cyfnod clo mis Mawrth a thu hwnt.


Clwstwr Garddwriaeth

Veg

Tyfu Cymru - Mewnwelediadau i'r Diwydiant Garddwriaeth

Yn y fideo byr hwn, rydyn ni'n siarad â dau dyfwr o Gymru am y diwydiant garddwriaeth, ac yn trafod y cyfleoedd a’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu dros gyfnod y Covid, ynghyd â’u barn ar y cyfleoedd i’r diwydiant yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Bellis Brothers yn fusnes teuluol sy'n cael ei redeg yn annibynnol, a sefydlwyd ym 1860 ac sydd wedi'i leoli llai na 9 milltir o Wrecsam yn Nyffryn hyfryd Dyfrdwy ar gyrion Pentref Holt. Maent yn cynnig profiad siopa unigryw gyda Siop Fferm helaeth, Canolfan Arddio, Adran Anrhegion, Bwyty mawr a Dewiswch Eich Hun yn dymhorol. Mae Claire Austin Hardy Plants yn arbenigo mewn peonies ac irises. mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o werthu irises gwreiddiau noeth, peonies gwreiddiau noeth, daylilies, a lluosflwydd mewn potiau, ar-lein. Maent yn fusnes archebu trwy'r post ac yn gweithredu trwy e-fasnach, gan gyflenwi i unigolion preifat ledled y DU o'u canolfan yn Sarn, Powys.


Clwstwr Datblygu Diodydd

Mae’r Clwstwr Datblygu Diodydd wedi cael ei lansio fel rhan o raglen Clwstwr Llywodraeth Cymru a chaiff ei anelu at gefnogi twf trwy gydweithio a chysylltedd diwydiannol. 

Drinks cluster

Tyfu'r Diwydiant Diodydd yng Nghymru

 

Cylchlythyr Clwstwr Diodydd - Ebrill 2020 Sgroliwch i lawr am y Gymraeg

 

Mae gwasanaethau allweddol yng Ngwynedd yn cael ei cyflenwi gyda diheintydd llaw gan gwmni jin lleol.  (Saesneg yn unig)

 


Clwstwr Allforio 

Export Club logo

Gall allforio weddnewid eich busnes, ac mae buddion potensial yn cynnwys gwerthiant ac elw cynyddol, yn ogystal ag annog creadigrwydd ac arloesedd, a chynyddu effeithiolrwydd.
 

Clwstwr Allforio a Rhaglen Ymweliadau Datblygu Masnach – Adolygiad Blwyddyn

 


Fish

Clwstwr Bwyd Môr Cymreig

Mae’r Rhaglen Datblygu Busnes yn anelu at alluogi busnesau pysgodfeydd Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi’r sector i dyfu gyda chefnogaeth benodol.

Cyfeiriadur Cyflenwyr a Chyfanwerthwyr Bwyd Mor Cymreig

Map o Gyflenwyr a Chyfanwerthwyr Bwyd Mor Cymreig


Anglesey Sea Salt

Clwstwr Bwydydd Da Cymru

Nod y Rhaglen Datblygu Busnes yw galluogi busnesau Cymreig i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy trwy gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig i dyfu trwy ddarparu cefnogaeth benodol – mae’r rhaglen Clwstwr yn enghraifft o’r gefnogaeth hon.

 


Vacuum packing

Clwstwr Busnes Effaith Uchel

Mae'r Clwstwr Busnes Effaith Uchel wedi'i lanso fel rhan o raglen datblygu clystyrau Llywodaeth Cymru.

 

 

 


Fruit cereal honey bars

Datblygu Clwstwr NutriWales (Maeth Cymru)

Bydd y Clwstwr yn ysgogi ymchwil ar y cyd, yn datblygu cynnyrch, yn rhoi mynediad at farchnadoedd newydd a bydd o fudd i economi Cymru yn ogystal ag i iechyd maethol Cymru.