Ymsefydlu yng Nghymru

Mae enwau adnabyddus fel Kelloggs, Kraft, 2 Sisters, Cadbury, ABInBev, ac Unilever wedi dewis Cymru am resymau busnes cadarn. Mae sawl llwyddiant cynhenid hefyd, fel S A Brain a Brace’s. Meddyliwch am ein gweithlu medrus a ffyddlon, ein cadwyn gyflenwi aeddfed, ein cymorth busnes a’r mynediad at ymchwil a datblygu.
 


Welsh lakes and mountains

Mae gan Gymru bopeth sydd ei angen arnoch i dyfu’ch busnes

Os ydych yn cynllunio eich cam twf nesaf, mae rhesymau cryf dros ddatblygu’ch busnes yng Nghymru.  Mae ein cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol yn caniatáu mynediad rhwydd i farchnadoedd allweddol Prydain ac Ewrop a thu hwnt, gyda’n system ffyrdd effeithlon a’n cysylltiadau rheilffordd ac awyr da.  Mae cynlluniau i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf i 96% o Gymru erbyn 2016. Mae gennym gysylltiadau da â chadwyni siopa yn y DU a marchnadoedd rhyngwladol. Cadwch gostau’n isel – defnyddiwch ein cynnyrch lleol, tymhorol, enwog sy’n ennill gwobrau’n gyson am ansawdd. 
 


Dairy partners

Astudiaeth achos

Dairy Partners Cymru Wales      

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Cwmni Dairy Partners Cymru Wales wedi medru ychwanegu gwerth ychwanegol i’w cynnyrch.

 

 


Calbee case study

Calbee UK

Mae Calbee yn un o'r prif gynhyrchwyr byrbrydau yn Siapan ac fe'i sefydlwyd yn 1949.Yn 2014 ffurfiwyd Calbee (UK) Ltd gan greu dewis o fyrbrydau sawrus iachus ac fe agorwyd canolfan gynhyrchu yng Nglannau Dyfrdwy yn 2015.