Digwyddiadau masnach
Cyrraedd marchnadoedd newydd drwy ddigwyddiadau masnach
Rydym yn eich helpu i gyrraedd eich marchnad mewn sawl ffordd. Gallech ddod i bafiliwn Bwyd a Diod Cymru mewn sioeau masnach fyd-eang a phwrpasol, sy'n galluogi busnesau i ddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau ar lwyfan y byd.
Gweler ein Rhaglen Ddigwyddiadau gyfredol
Taith Fasnach
Gallech ymuno ag un neu ragor o’r nifer o ymweliadau datblygu masnach rydym yn eu cynnal bob blwyddyn. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda darpar asiantau, dosbarthwyr a chwsmeriaid newydd, ac mae ein dewis o leoliadau’n adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol, er mwyn rhoi’r cyfle gorau i chi ganfod busnes newydd.