Rhedeg eich busnes

Mae Busnes Cymru’n cefnogi pobl sy’n dechrau, yn rhedeg neu’n tyfu busnes. Rhoddir cyngor ar-lein, dros y ffôn ar ein Llinell Gymorth, neu wyneb-yn-wyneb, ac mae ein 10 canllaw gorau’n trafod hanfodion fel cyllid, cymorth technegol, ennill sgiliau masnachol, datblygu busnes, marchnata, eiddo a lleoliad, a mentora.


Diwydiant Bwyd a Diod - Yr hyn y gallwn ei wneud i chi (Saenseg yn unig)

Gyda heriau enfawr yn gwynebu'r diwydiant bwyd a diod, ni fu erioed yn bwysicach i gofleidio technolegau newydd sydd â'r potensial i drawsnewid perfformiad busnes a gwella canfyddiad defnyddwyr.

Mae Prifysgol Sheffield AMRC Cymru yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ac FDF Cymru i ganolbwyntio ar welliannau cynhyrchiant, twf cynaliadwy a datblygu sector sy'n cael ei bweru gan dechnoleg arloesol a gwyrdd.


Meithrin gwydnwch busnes mewn cyfnod anwadal 

Wrth i 2020 ddirwyn i ben, mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn gwynebu amodau anwadal oherwydd effeithiau cyfunol Covid-19, Gadael yr UE a chyfnod masnachu Nadolig na ellir ei ragweld.

Cafodd y fideo gweminar ar-lein hwn ei recordio gan Sgiliau Bwyd Cymru fel rhan o Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: Canolbwyntio ar Gredyd Masnach

Cynhaliwyd y weminar hon ar 15 Gorffennaf 2020


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: Deall a Lliniaru Risg a Rhagweld

Cynhaliwyd y weminar hon ar 21 Gorffennaf 2020

 


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: Rheoli arian parod a hylifedd

Cynhaliwyd y weminar hon ar 5 Awst 2020


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: Canolbwyntio ar E-fasnach Broffidiol

Cynhaliwyd y weminar hon ar 9 Medi 2020


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: a all y strwythur cyfreithiol a threth cywir eich gwneud chi'n fwy gwydn?

Cynhaliwyd y weminar hon ar 16 Medi 2020


Adeiladu Gwydnwch Busnes yn Sector Bwyd a Diod Cymru: Arian Pobl Eraill, ffocws ar gyllid ecwiti

Cynhaliwyd y weminar hon ar 29 Medi 2020


FairShare Cymru - Canllaw Dosbarthu Bwyd Dros Ben 

Mae FaieShare Cymru wedi creu canllaw i'r diwydiantbwyd ar gyfer dosbarthu bwyd dros ben. (Saesneg yn unig)


Adeiladu Gwytnwch Busnes: Rhestr Wirio Rheoli a Lliniaru Risg

Mae risgiau'n amrywio ymysg busnesau bwyd a diod unigol. dyma gymorth i'ch helpu i feddwl am agweddau gwahanol eich busnes a pha risgiau all effeithio ar eich busnes.

PDF icon

Llywodraeth Cymru  a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: Y Diwydiant Bwyd a Diod Ymgynghoriad Prentisiaethau Cymru

Rhaglenni dysgu wedi cynllunio o gylch anghenion cyflogwyr er mwyn helpu i recriwtio a hyfforddi staff yw prentisiaethau bwyd a diod Cymru. Mae'r llwybrau prentisiaeth yng Nghymru yn cael eu newid. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru weminar i fuenesau bwyd a diod ar bwysigrwydd prentisiaethau sgiliau a'r newidiadau sy'n digwydd.

Cynhaliwyd gweminar Y Diwydiant Bwyd a Diod - Ymgynghoriad Prentisiaethau Cymru ar 16 Medi 2020

Llywodraeth Cmru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: Y Diwydiant Bwyd a Diod Ymgynghoriad Prentisiaethau Cymru - Holi ac Ateb (Saesneg yn unig) 


Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: Gweminar cefnogi adferiad busnes wedi COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru newydd lansio cyfres o gamau i gefnogi'r sector bwyd a diod yng Nghymru wrth inni adfer o effaith pandemig COVID-19.

Cewch hyd i'r cynllun yma: Cynllun Adfer COVID-19

Cynhaliwyd gweminar i drafod cynllun cefnogi adferiad busnesau o effaith COVID-19 ar 5 Awst 2020

Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: Cefnogi adferiad busnesau a chadwyni cyflenwi ar ôl COVID-19.    Crynodeb a C & A (Saenseg yn unig)


Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr : profi, olrhain, diogelu

Mae'r coronafeirws dal gyda ni. Mae'n hanfodol bod mesurau'n cael eu cymryd i gyfyngu ar ei ledaeniad. Edrychwch ar y canllawiau a gyhoeddwyd yma


Cefnogaeth arloesi COVID-19

Mae sicrhau bod eich busnes yn ddiogel ac yn cydymffurfio o ran COVID-19, ar yr un pryd ag aros yn gynhyrchiol ac yn broffidiol, yn gallu teimlo fel her enfawr. Mae help ar gael, yn rhad ac am ddim i fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru, trwy'r rhaglen Arloesedd SMART a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. 


Menter Cadw Pellter

Mae'r fenter Cadw Pellter wedi'i chymeradwyo'n ddiweddar gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Sefydliwyd y fenter i alluogi unigolion a sefydliadau i annog y broses o bellhau a pharchu gofod cymdeithasol unigol. Caiff y fenter hon ei chymeradwyo hefyd gan Lywodraeth Cymru a'i chefnogi gan Gomisiwn Bevan. Mae templedi bathodynnau/poster ar gael i'w lawrlwytho o'r safle. (Saesneg yn unig)

Menter Cadw Pellter : https://www.bevancommission.org/distance-aware


Sefyllfaoedd lle gallai fod angen cofrestru wrth ddarparu bwyd yn y gymuned

Canllawiau sy'n disgrifio sefyllfaoedd yn ystod COVID-19 lle gallai fod angen i unigolion sy'n darparu bwyd gofrestru fel busnes bwyd.

Profi, olrhain, diogelu: canllawiau i gyflogwyr - Cyfrifoldebau cyflogwyr i helpu gyda phrofion coronafeirws ac olrhain cyswllt.

COVID-19 Cymorth i Fusnesau - Pecyn Cymorth - Adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn y gweithle.

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/pecyn-cymorth

Beth sy’n digwydd pan gewch chi brawf am y coronafeirws (COVID-19) (hawdd ei ddeall) - Esboniad hawdd ei ddarllen o pryd i gael eich profi a beth fydd y GIG yn gofyn os fyddwch yn cael prawf positif.

Profi, olrhain, amddiffyn: crynodeb o'r broses - Beth sydd angen i chi wneud i helpu olrhain cysylltiadau i reoli lledaenu'r coronafeirws.

Coronafeirws - COVID 19 - Cyngor i fusnesau (Saesneg yn unig)

https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-guidance-for-food-businesses/guidance-for-food-businesses-on-coronavirus-covid-19


Llywodraeth Cymru, mewn Partneriaeth a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod: Ymateb Cenedlaethol i COVID-19

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyda chefnogaeth y Bwrdd Bwyd, cynhaliwyd gweminar ar 2 Gorffennaf gyda dros 130 o fusnesau i drafod argyfwng COVID-19 a'i effaith ar weithgynhyrchu bwyd. Roedd y gweminar yn canolbwyntio ar fusnesau bwyd yn gweithredu i safonau uchel er mwyn lleihau'r risg y gallai'r gweithlu gontractio a lledaenu COVID-19 yn y gweithle. Cafodd y gweminar dderbyniad da iawn. 

 


Gwasanaethau diheintio coronafeirws

(Saesneg yn unig)

Llinell gymorth ar gyfer diheintio proffesiynol o swyddfeydd, cyfleusterau, safleoedd gwaith, cerbydau, offer a chyfarpar


Adnoddau Dynol: Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn y cyfyngiadau symud

Mae mwy a mwy o fusnesau’n paratoi i ddychwelyd i’r gwaith wrth i gynlluniau’r llywodraeth yn ymwneud â lleihau cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol barhau i ddod i’r amlwg. Mae’r daflen wybodaeth hon a ddatblygwyd gan Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Menter a Busnes, yn amlinellu rhai o’r
ystyriaethau cyflogaeth sy’n berthnasol ar hyn o bryd.


 

Calculator

Ffordd o fyw ragorol yma yng Nghymru

Mae busnesau sy'n symud i Gymru'n cael eu croesawu - mae'r bobl yn gyfeillgar ac mae teuluoedd sy'n ailymsefydlu â'u cwmnïau'n cael mwynhau ffordd o fyw ragorol. I ddechrau, mae gan Gymru rai o'r prisiau tai mwyaf cystadleuol yn y DU. Yna, dyna’r system addysg - rydym yn darparu un o’r rhaglenni addysg gorau yn y DU. Mae’r gweithgareddau cymdeithasol ymhlith y gorau sydd ar gael, o gerddoriaeth a’r celfyddydau a theatrau i lenyddiaeth, gwyliau bwyd rhyngwladol o fri a digwyddiadau chwaraeon mawr, o rygbi a phêl-droed i golff rhyngwladol a chwaraeon dŵr.
 


Welsh lakes and mountains

Yr awyr agored

Mae rhai o'r golygfeydd cefn gwlad, y mynyddoedd a'r arfordir harddaf yn y byd i'w gweld yng Nghymru. Mae Llwybr Arfordir 870-milltir Cymru yn unigryw gan mai dyma’r unig lwybr yn y byd sy’n mynd o amgylch gwlad gyfan. Mae cerddwyr, beicwyr, pobl sy’n gwylio bywyd gwyllt a marchogwyr ceffylau yn mwynhau defnyddio’r llwybr ac mae’n arwain at draethau braf ac ardaloedd lle gall pobl o bob oed fwynhau’r chwaraeon a’r adloniant o’u dewis. Mae tua 1,600 milltir sgwâr o barciau cenedlaethol a sawl Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru hefyd.