Strategaeth Bwyd Cymunedol

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithredu, yn ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.


Astudiaeth Mapio Systemau Strategaeth Bwyd Cymunedol: Canlyniadau Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Comisiynwyd Miller Research ym mis Chwefror 2023 i gynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â ‘Map Systemau Bwyd Cymunedol’ Llywodraeth Cymru, a ddyluniwyd i adlewyrchu dealltwriaeth gyfredol, gywir o’r sefyllfa Bwyd Cymunedol yng Nghymru.

Roedd hyn yn golygu cynnal cyfres o bum gweithdy hydredol gyda ‘grŵp arbenigwyr’ enwol, ochr yn ochr â 9 gweithdy ychwanegol gyda grwpiau rhanddeiliaid ehangach. Ymgysylltwyd â chyfanswm o oddeutu 80 o randdeiliaid yn rhan o’r gwaith ymchwil hwn. Rhoddodd y rhanddeiliaid adborth ar y map y gallwch ei ddarllen yma.


Astudiaeth Mapio Systemau Strategaeth Bwyd Cymunedol: Canlyniadau Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Rydym ni wedi cynnal dau arolwg i gasglu barn ar ddatblygiad y Strategaeth Bwyd Cymunedol, y cyntaf ar gyfer defnyddwyr a'r ail ar gyfer rhanddeiliaid sy'n ymwneud â mentrau bwyd cymunedol. Gallwch ddarllen y canlyniadau yma:


Astudiaethau Achos o Gymru

Dyma rai enghreifftiau o fentrau bwyd cymunedol sydd eisoes wedi'u sefydlu sy'n dangos amrywiaeth ac ystod y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â bwyd sydd eisoes yn digwydd yn ein cymunedau.

(Ymwadiad: Roedd y deunydd a'r wybodaeth a geir yn yr astudiaethau achos hyn yn gywir ar adeg ysgrifennu)

Food Cardiff

Mae Bwyd Caerdydd yn bartneriaeth o unigolion a mudiadau sy’n gweithredu fel hyb i gysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio er mwyn hybu bwyd iach, cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol a moesegol ar draws y ddinas. Gan weithredu fel llais ar gyfer newid ehangach, mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd a’r ardaloedd o gwmpas y ddinas – nid yn unig ar fywyd pobl, ond hefyd ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd a’r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da’n creu cymunedau cryf, iach a gwydn.

Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos Food Cardiff
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos Food Cardiff

Big Bocs Bwyd

Ysbrydolwyd Bocs Bwyd Mawr yn 2018 gan 2 brosiect yn Ysgolion Cynradd Cadoxton ac Oakfield yn y Barri. Mae’r prosiectau hyn wedi trosi cynwysyddion cludo nwyddau ar dir ysgolion lleol yn ganolbwynt ar gyfer addysg am bopeth sy’n gysylltiedig â bwyd.

Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Bocs Bwyd Mawr
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Bocs Bwyd Mawr

Cae Tan

Mae Cae Tân, a ffurfiwyd yn 2015, yn brosiect amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned ar Benrhyn Gŵyr. Yn ystod yr 8 mlynedd ers sefydlu Cae Tân mae’r ymgysylltu a’r diddordeb wedi cynyddu. Roedd prosiect Cae Tân yn un o’r prosiectau cymunedol blaenllaw a oedd yn cael ei gefnogi gan gwmni buddiannau cymunedol cydweithredol Gower Power, ac erbyn hyn mae wedi cael sylw cadarnhaol ar y cyfryngau oherwydd ei bwyslais ar les, cymunedau, yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

PDF icon
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Cae Tan
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Cae Tan

Clynfyw Care Farm

Dechreuodd Fferm Ofal Clynfyw yn Nyffryn Teifi ym mis Mawrth 2011. Tyfodd o Clynfyw Countryside Centre Ltd, a sefydlwyd yn 1985 i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch i ymwelwyr anabl drwy ddarparu bythynnod hygyrch a gweithgareddau diddorol. Erbyn hyn mae eu tîm ymroddgar o 39 gweithiwr cyflogedig a 10 gwirfoddolwr yn cefnogi pobl anabl ac agored i niwed, gan ddarparu prosiectau natur llawn pwrpas, yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn galluogi dysgu, ymgysylltu, cyfraniad ac – yn bwysig iawn - hwyl!

Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Clynfyw Care Farm
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Clynfyw Care Farm

Mach Maethlon

Mae Mach Maethlon yn fudiad cymunedol ym Mro Ddyfi sy’n cyfuno “3 phrosiect ag un pwrpas cyffredin”. Y prosiectau hyn yw:

  • Bocs Llysiau Mach – cynllun bocs llysiau tymhorol yn cefnogi mynediad cymunedol at dir i dyfu bwyd
  • Mach Bwytadwy - 14 o fannau cyhoeddus bwytadwy o amgylch Machynlleth yn cael eu trefnu gan wirfoddolwyr
  • Rhannu Tir Dyfi – paru pobl sydd eisiau tyfu pethau â thir sydd ar gael
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Mach Maethlon
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Mach Maethlon

Social Farms & Gardens

Mae Social Farms and Gardens yn elusen sy’n gweithredu ledled y DU er mwyn cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda’i gilydd. Eu cenhadaeth yw gwella iechyd a lles unigolion, cymunedau a’r amgylchedd drwy weithgareddau natur sy’n galluogi pobl a chymunedau i gyflawni eu potensial yn llawn, fel rhan o’u bywyd bob dydd.

Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Social Farms and Gardens
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Social Farms and Gardens

Vale School Catering

Ym mis Ionawr 2019, cyhoeddwyd adroddiad gan PER Consulting, ar ran Cyngor Bro Morgannwg, ynglŷn ag ymarferoldeb caffael cynnyrch lleol o Fro Morgannwg i’w defnyddio mewn prydau bwyd mewn ysgolion lleol. Ffurfiwyd Cwmni Masnachu’r Awdurdod Lleol i fanteisio ar y galluoedd arlwyo ym Mro Morgannwg. Nid oedd yr endid hwn a sefydlwyd wedi’i rwymo gan y rheolau caffael yr oedd yn rhaid i’r Cyngor ehangach eu dilyn, ac o ganlyniad gallai gaffael cynnyrch yn lleol, gan gefnogi’r amgylchedd lleol, cynyddu cynaliadwyedd a lleihau milltiroedd bwyd

Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Vale School Catering
Strategaeth Bwyd Cymunedol - Astudiaeth Achos: Vale School Catering

Astudiaethau Achos y tu allan i Gymru

Grow it Yourself

Sefydlwyd GIY (Grow It Yourself) yn 2008 gan Michael Kelly, a dechreuodd fel grŵp cymunedol gwirfoddol yn Waterford, yn Iwerddon, wedi’i sefydlu fel ffordd i bobl y ddinas ddod at ei gilydd i ddysgu sut i dyfu bwyd. Yn 2009, sefydlwyd GIY ei hun fel menter gymdeithasol i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol a hybu tyfu bwyd fel ffordd o ysgogi dull mwy cynaliadwy o fyw.


Glasgow Community Food Network

Sefydlwyd Glasgow Community Food Network (GCFN) yn 2017 i ddod ag ymarferwyr a sefydliadau’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac unigolion eraill â diddordeb, at ei gilydd i ddatblygu system fwyd lewyrchus yn Glasgow. Nod GCFN yw gweithio gyda phawb sydd â diddordeb mewn bwyd: cogyddion a thai bwyta, ffermwyr a garddwyr marchnad, gwirfoddolwyr banciau bwyd a cheginau cawl ac unrhyw un arall sydd eisiau gwell bwyd i bobl Glasgow.


Home (Helping Old Moat Eat)

Un o brosiectau Sow the City oedd Helping Old Moat Eat (HOME). Roedd yn weithredol rhwng 2013 a 2016 a’i nod oedd darparu bwyd mewn argyfwng er mwyn lleihau tlodi bwyd a dileu rhwystrau a oedd yn atal pobl rhag cael bwyd. Roedd HOME yn darparu gwasanaethau er mwyn mynd i’r afael â rhai o achosion hirdymor tlodi bwyd gan gynnwys gwella sgiliau coginio a chyllidebu, gwella mynediad at fwyd maethlon, rhesymol a chyfleoedd bwyta cymunedol, iach.