Amdanom ni

Ni yw’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru – ac rydym yn falch o hynny! Rydym ar dân dros fwyd a diod ac yn gweithio'n galed i gefnogi ein cwmnïau cynhyrchu ac i gynnwys defnyddwyr mewn ffordd sy'n manteisio i'r eithaf ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Mae bwyd a diod yn bwysig iawn i ni yng Nghymru

About us

Rydym wrth ein bodd gyda'n diwydiant!

Mae’r bwyd a diod a gynhyrchir yng Nghymru yn wych, ac mae’n cystadlu ar lwyfan y byd. Ein nod yw cynnal y safon a’i gwella drwy gefnogi ein cynhyrchwyr a’n gwerthwyr yn eu hymdrechion i ddarparu cynnyrch gwell byth.

Mae Llywodraeth Cymru a ninnau wedi ymrwymo i helpu’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant ac i rannu’r newyddion da â defnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt. Rydym eisoes wedi cymryd camau mawr ymlaen i arddangos cynnyrch o Gymru - fel y dengys y cynnydd yn ein cofnod allforio.

Er ein bod yn frwdfrydig yng Nghymru, rydym yn gyfrifol hefyd. Mae cyfres o bolisïau cadarn sy'n rhoi amlygrwydd priodol i ddiogelwch a safonau bwyd, datblygu cynaliadwy ac sy’n cefnogi’r ymgyrch dros ddiogelwch bwyd wrth wraidd yr holl waith o gynhyrchu a dosbarthu bwyd a diod.

Recipes

Traditional Welsh recipes

Great Taste Gold Awards 2023

Great Taste Gold Awards 2023

Barriers to Accreditation

Food Safety Schemes (FSSs) are essential to the food and drink industry