GwerthwchiGymru

Gwerthwchi Gymru logo

Porth o gyfle

Os ydych chi’n gobeithio ennill contractau bwyd a diod gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru, rhaid i chi wybod am Gwerthwch i Gymru.

Dyma’r Porth Caffael Cenedlaethol yng Nghymru, lle byddwch yn cael gwybod am gontractau am nwyddau a gwasanaethau sector cyhoeddus gwerth biliynau o bunnau, a lle gallwch gyflwyno tendrau ar eu cyfer.

Mae ystod eang o sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru’n cynnig y contractau hyn, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, colegau a phrifysgolion. 
 


Popeth mewn un lle

Cewch ddefnyddio’r porth am ddim, ac ar ôl i chi gofrestru gallwch chwilio am dendrau, cofrestru i gael negeseuon e-bost am y cyfleoedd busnes diweddaraf, cael cymorth ar-lein a gwybodaeth am ddim am gontractau a chaffael gan gynnwys newyddion perthnasol a gwybodaeth am ddigwyddiadau ar gyfer Cymru.

Am rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan GwerthwchiGymru. Gallwch hefyd weld fideo byr ar YouTube.