Mesur ein llwyddiant yn hyn o beth
Byddwn yn edrych ar ystod eang o ddangosyddion – gan gynnwys nifer y busnesau, gwerth y busnesau hynny, ffigurau allforio, achrediadau a gwobrau, a mesurau amgylcheddol a llesiant. Byddwn yn cyhoeddi popeth ar wefan Busnes Cymru, felly bydd cofnod parhaus o’r cynnydd a wneir. Bydd y mesurau llwyddiant allweddol hyn yn rhoi darlun clir i bob un ohonom o’r cynnydd a wnawn ac o’r agweddau y bydd arnynt angen fwy o sylw.
Ein ffyrdd o fesur llwyddiant
- Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru yn tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.
- Bydd cyfartaledd tair blynedd Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU.
- Bob blwyddyn, bydd cyfran gweithwyr y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf yn cynyddu, i gyflawni 80% erbyn 2025.
- Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sydd ag achrediad (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
- Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y sector sy’n cyflawni dyfarniadau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch arall o Gymru yn ymuno â chynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU.
- Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.
Dangosyddion eraill
Ynghyd â'r mesurau llwyddiant, mae’n bwysig monitro targedau a dangosyddion eraill ac maent yn debygol o ddod yn berthnasol dros amser. Bydd ein dangosfwrdd yn ddigon hyblyg inni fedru ychwanegu atynt yn ôl yr angen.
- Nifer y busnesau yn y sector, a data hanesyddol ar gyfer blynyddoedd cynharach
-
Cyfradd flynyddol o fusnesau newydd
-
Cyfradd y busnesau a fydd yn para pump neu fwy o flynyddoedd
-
Gwerth allforio ar gyfer y flwyddyn, a ffigurau hanesyddol
-
Cyfanswm y gweithwyr
-
Busnesau a fydd yn ymrwymo i'r adduned sgiliau
-
Nifer y busnesau sy’n ailgreu cynnyrch drwy Arloesi Bwyd Cymru a Phrosiect Helix