Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a lansiwyd gyntaf yn 2017 ac a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o’r byd ynghyd. Gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru Y digwyddiad hwn yw'r digwyddiad blaenllaw yng Nghymru. Arddangoswch eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw y diwydiant o fanwerthu a gwasanaeth bwyd, rhwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant bwyd...
Anuga, Cologne - Arddangosfa Masnach Bwyd a Diod y Byd
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Cymru/Wales yn sioe Anuga. Cologne rhwng 04 Hydref – 08 Hydref 2025. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw 11 Gorffennaf 2025. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â’ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin.
Addasu ar gyfer Yfory: Gwydnwch Hinsawdd ym Maes Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru
Diogelu’ch elw – nawr yw’r amser i weithredu. Dewch i ymuno â ni ar gyfer cyflwyniad a thrafodaeth ymarferol a diddorol i dynnu sylw at addasiadau a all helpu i ddiogelu’ch busnes bwyd neu ddiod rhag eeithiau newid hinsawdd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi profi tymereddau uwch a thonnau gwres, stormydd a glaw trwm yn amlach, gan arwain at lifogydd. Mae cadwyni cyflenwi yn y DU ac yn fyd-eang yn cael eu tarfu...
Cymru yn codi gwydraid i’w diwydiant gwin sy’n ffynnu
Mae dros 40 o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal ledled Cymru wrth i winllannoedd, selogion gwin ac arweinwyr y diwydiant ddathlu llwyddiant cynyddol diwydiant gwin Cymru. O deithiau o amgylch gwinllannoedd i sesiynau blasu a digwyddiadau masnach, dangosodd Wythnos Gwin Cymru 2025 yr amrywiaeth, yr ansawdd a'r angerdd y tu ôl i win Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd nodedig ym maint y gwin sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ynghyd â nifer...
Hyrwyddo llwyddiant entrepreneuraidd bwyd a diod Cymru
Roedd rhagoriaeth entrepreneuraidd o dan y chwyddwydr yn ystod dathliad mawr o sector bwyd a diod ffyniannus y genedl yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025, a gynhaliwyd yn Llandudno yn ddiweddar. Enwyd yr Arglwydd Newborough, perchennog Ystâd Rhug, yn ‘Entrepreneur y Flwyddyn’, i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i’r diwydiant. Wedi’i noddi gan Fwyd a Diod Cymru, roedd y wobr yn dathlu unigolion sy’n arwain y ffordd yn sector bwyd a diod Cymru, a’r rhai...
Datblygu Cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod Newydd mewn Cydweithrediad â Choleg Sir Benfro
Mae Coleg Sir Benfro, mewn cydweithrediad â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, yn falch o gyhoeddi lansio cwrs Prentisiaeth Cynnal a Chadw Peirianneg Bwyd a Diod newydd. Mae'r fenter yn deillio o drafodaethau yng Ngrŵp Arbenigwyr rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru lle nodwyd bylchau sgiliau yn y maes hwn, a'i nod yw diwallu'r galw cynyddol am beirianwyr medrus yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod. Dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac...
Wythnos Gwin Cymru
Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd Wythnos Gwin Cymru yn digwydd o 30 Mai i 8 Mehefin. Bydd y digwyddiad wythnos o hyd hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ac angerdd gwinllannoedd Cymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous o deithiau gwinllannoedd, sesiynau blasu, sesiynau cwrdd â'r cynhyrchwyr, cynigion arbennig a dathliadau i selogion gwin a'r cyhoedd. Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter clystyrau Llywodraeth...
Beth yw Cynllun Lleihau Carbon?
Dysgwch hanfodion Cynllun Lleihau Carbon—beth ydyw, pam ei fod yn bwysig, a sut y gall gefnogi eich taith i Sero Net. Darganfyddwch fanteision gosod ac adolygu targedau carbon yn flynyddol, a sut y gall y broses hon ysgogi gwelliant parhaus. Mae’r sesiwn yn amlinellu’r gefnogaeth wedi’i theilwra sydd ar gael trwy’r peilot, gan eich helpu i ddatblygu cynllun clir, cyraeddadwy sy’n cyd-fynd â nodau eich sefydliad. -Diffiniad a phwrpas Cynllun Lleihau Carbon (CLlC) -Pam mae...
Rheoli CIP
Mae'r cwrs hwn yn rhoi hyfforddiant manwl ac ymarferol i Reolwyr Hylendid a phersonél technegol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli systemau Glanhau ar Waith (CIP). Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i alluogi person sydd â chymwysterau technegol sydd â dealltwriaeth dda o egwyddorion glanhau planhigion agored a chemeg i fod yn gymwys i ddeall ac asesu glanhau mewn cylchedau a setiau CIP. MANYLION Y CWRS: CIP - Cyflwyniad Buddion CIP Glanhau Llestr a Gwaith Pibellau...
Llond casgen o hwyl yng ngwinllannoedd Cymru yn ystod Wythnos Gwin Cymru
Mae gwinllannoedd Cymru yn paratoi'n eiddgar ar gyfer Wythnos Gwin Cymru 2025, dathliad o ansawdd ac amrywiaeth eithriadol gwinoedd sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd Wythnos Gwin Cymru yn digwydd o 30 Mai i 8 Mehefin. Bydd y digwyddiad wythnos o hyd hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ac angerdd gwinllannoedd Cymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous o deithiau gwinllannoedd, sesiynau blasu, sesiynau cwrdd â'r cynhyrchwyr...