Cymru yn arddangos bwyd a diod o’r radd flaenaf yn Gulfood 2026
Bydd Cymru yn gosod ei sector bwyd a diod o'r radd flaenaf yn ganolbwynt i Gulfood 2026, arddangosfa fasnach bwyd a diod flynyddol fwyaf y byd, a gynhelir yn Dubai o 26–30 Ionawr 2026. Eleni yw ei dirprwyaeth fwyaf hyd yma, gyda 19 o gwmnïau'n cynrychioli'r ystod amrywiol o gynhyrchion Cymru sy'n cael eu hallforio i'r rhanbarth ar hyn o bryd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd cymysgedd o allforwyr sefydledig a'r rhai sy'n newydd i'r...