Gosod bwyd a diod o Gymru ganol llwyfan ym Marchnad hanesyddol Spitalfields yn Llundain dros benwythnos Gŵyl Ddewi.
Bydd Bwyd a Diod Cymru’n dod â’r gorau o fwyd a diod Cymreig i galon Llundain gyda sioe arbennig ym Marchnad eiconaidd Spitalfields dros benwythnos Gŵyl Ddewi, dydd Sadwrn 28 Chwefror - dydd Sul 1 Mawrth. Fel un o leoliadau bwyd mwyaf hanesyddol Llundain, bydd y farchnad yn rhoi sylw arbennig i ddwsin o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig, ac yn dathlu statws Cymru fel cenedl fwyd modern sy’n cynhyrchu bwydydd a diodydd o safon...