Bydd Bwyd a Diod Cymru’n dod â’r gorau o fwyd a diod Cymreig i galon Llundain gyda sioe arbennig ym Marchnad eiconaidd Spitalfields dros benwythnos Gŵyl Ddewi, dydd Sadwrn 28 Chwefror - dydd Sul 1 Mawrth.
Fel un o leoliadau bwyd mwyaf hanesyddol Llundain, bydd y farchnad yn rhoi sylw arbennig i ddwsin o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig, ac yn dathlu statws Cymru fel cenedl fwyd modern sy’n cynhyrchu bwydydd a diodydd o safon ryngwladol.
Mae treftadaeth fasnachu gyfoethog Marchnad Spitalfields a’i henw da am gynnyrch neilltuol yn golygu taw dyma yw’r lle perffaith i rannu stori bwyd a diod Cymreig â chynulleidfaoedd Llundain. Dros y penwythnos, caiff ymwelwyr wahoddiad i ddarganfod cynnyrch sy’n adlewyrchu ansawdd, cymeriad ac uchelgais y Gymru gyfoes – o’r hen ffefrynnau traddodiadol i frandiau arloesol a modern.
Trwy leisiau cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a chyfranwyr, bydd y digwyddiad yn dathlu’r bobl sydd y tu ôl i’r cynnyrch, pwysigrwydd tarddiad, gwreiddiau a statws gwarchodedig, a threftadaeth bwyd gyfoethog Cymru.
Bydd grŵp dethol o fusnesau bwyd a diod Cymreig yn arddangos yn Spitalfields, gan roi cyfle i ymwelwyr gwrdd â’r bobl y tu ôl i’r cynnyrch a chlywed eu straeon. Bydd y rhain yn cynnwys:
Jin Gŵyr (Penrhyn Gŵyr) - Wedi ei greu gan ddefnyddio cynhwyson botanegol sy’n cael eu casglu’n lleol, mae Jin Gŵyr yn cofleidio naws ei amgylchoedd arfordirol gan gyfuno technegau distyllu traddodiadol ag ymdeimlad cryf o le.
Still Wild (Cilgeti) – Mae’r micro-ddistyllfa yma yn Sir Benfro yn adnabyddus am ei wirodydd arbennig sy’n cael eu cynhyrchu fesul sypiau bach, gan gyfuno sawrau beiddgar â chynhwysion naturiol wedi eu casglu â llaw.
Flavour Moments (Corwen) - Mae’r cwmni caws artisan yma o’r gogledd yn creu perlau caws geifr wedi eu llenwi â sawrau fel ffigys, gellyg, mêl a mwy, â’r nod o ychwanegu blas creadigol a moethus at brydau fel salad a pizza, a byrddau caws a byrbrydau.
Cigydd Farmers Pantry yn Fferm Rosedew (Llanilltud Fawr) Cigydd fferm teuluol Cymreig a siop ar-lein sy’n gwerthu cigoedd a chynnyrch cynaliadwy sydd wedi eu magu mewn ffordd foesegol yn unionyrchol o Fferm Rosedew a phartneriaid lleol i gwsmeriaid ar draws y de.
Rogue Welsh Cakes (Casnewydd) - Tro beiddgar a modern ar glasur Cymreig, mae Rogue Welsh Cakes wedi denu dilynwyr selog trwy ail-ddychmygu pice ar y maen traddodiadol Cymreig gyda sawrau ac agwedd gyfoes, a’r cyfan wrth aros yn driw i’w gwreiddiau.
Maggie’s African Twist (Caernarfon) - Trwy gyfuno cynnyrch Cymreig â sawrau Affricanaidd, mae Maggie’s African Twist yn cynhyrchu sawsiau a chonfennau sy’n dathlu cyfuniadau diwylliannol a ryseitiau teuluol â llaw.
Radnor Preserves (y Drenewydd) - yn adnabyddus am ei jamiau, jelis a chyffeithiau wedi eu creu â llaw sy’n cyfuno ryseitiau teuluol y sylfaenydd Joanna Morgan â chyfuniadau arloesol o sawrau.
Mydflower (Llanymddyfri) - yn adnabyddus am ei winoedd pefriog ysgafn sy’n cael eu creu gan ddefnyddio dŵr ffynnon o Fannau Brycheiniog, a chynhwysion botanegol a mwyar lleol.
The PattyMan (Caerdydd) - brand sy’n cyfuno sawrau Cymru a Jamaica sy’n arbenigo mewn sawsiau wedi eu hysbrydoli gan Jamaica, confennau moethus a phatis traddodiadol Jamaica.
Dathlu Gŵyl Ddewi trwy fwyd
Mae sioe Spitalfields yn rhan o ddathliad Gŵyl Ddewi ehangach sy’n cael ei drefnu gan Fwyd a Diod Cymru, sef adran fwyd Llywodraeth Cymru, sydd, ynghyd â’i rôl allweddol wrth gynnal a meithrin y sector, yn defnyddio bwyd a diod fel ffordd bwerus o fynegi hunaniaeth, creadigrwydd a balchder cenedlaethol.
Ochr yn ochr â’r sioe yn Llundain, cynhelir dathliad Gŵyl Ddewi sy’n dathlu bwydydd Cymreig yng Nghaerdydd dydd Gwener, 27 Chwefror, a fydd yn dod â blas o Gymru’n uniongyrchol i deithwyr ac ymwelwyr â’r brifddinas. Wedi ei leoli y tu allan i Orsaf Caerdydd Canolog yn y Sgwâr Canolog, bydd yr achlysur yn cynnwys dwy lori fwyd a fydd yn cynnig croeso cynnes Cymreig i deithwyr o ganol y bore tan ganol y prynhawn.
Bydd y naill, dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru, yn gweini caws pob Cymreig traddodiadol a the Cymreig i deithwyr, a’r llall yn canolbwyntio ar samplo amrywiaeth o fwydydd â Dynodiad Daearyddol, gan roi sylw i gynnyrch gwarchodedig a brodorol Cymru.
Dywedodd Lowri Joyce, Arweinydd Strategaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru:
“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni am ddod yn rhan o ffabrig bywyd pob dydd yng Nghymru, gan gysylltu pobl â swyddi, addysg, hamdden, ac yn fwy na dim, â’i gilydd.
“Rydyn ni’n creu cludiant cyhoeddus sy’n gydgysylltiedig, yn fforddiadwy, yn ddibynadwy ac yn cysylltu Cymru a’r Gororau.
“Rydyn ni’n llawn cyffro i gael dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy ddod â’n lori fwyd llawn danteithion Cymreig i flaen Gorsaf Caerdydd Canolog.
“Dathliad o’n diwrnod cenedlaethol fydd hwn, a bydd yn gyfle i bobl flasu’r bwydydd a’r diodydd bendigedig sydd ar gael ar ein gwasanaethau trên.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS:
“Dydd Gŵyl Dewi yw’r adeg berffaith i ddathlu ansawdd a chreadigrwydd neilltuol cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. O gigoedd arobryn i wirodydd gan grefftwyr arloesol, mae’r busnesau sy’n arddangos yn Spitalfields yn cynrychioli’r gorau o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.
“Mae ein sector bwyd a diod wedi ei adeiladu ar sylfeini cadarn – gyda statws daearyddol gwarchodedig, arferion ffermio cynaliadwy a chenedlaethau o gynhyrchwyr medrus. Ond mae hi’n sector sy’n parhau i esblygu hefyd, gyda chynhyrchwyr yn cyfuno’u treftadaeth â syniadau ffres a chynlluniau uchelgeisiol i dyfu.
“Mae achlysuron fel hyn yn allweddol i gysylltu busnesau Cymreig â marchnadoedd newydd, a dangos i brynwyr ar draws y DU fod Cymru’n genedl fwyd fodern â chynnyrch sy’n gallu cystadlu ar y lefel uchaf.”