STATWS DYNODIAD DAEARYDDOL GWARCHODEDIG I FÊL GRUG CYMRU – Y CYNTAF O’I FATH YN Y DU
Mêl Grug Cymru yw’r mêl cyntaf yn y DU i gael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) y mae pawb ei eisiau. Dynodiad cyfreithiol yw hwn sy’n amddiffyn cynhyrchion bwyd a diod rhag cael eu hefelychu a’u camddefnyddio. O ganlyniad, mae Mêl Grug Cymru wedi ymuno â’r teulu cynyddol o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru sydd, yn rhinwedd eu nodweddion a’u lleoliad unigryw, yn cael eu diogelu o dan Gynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU...