Mae’r Great British Food Awards, un o ddathliadau mwyaf mawreddog y DU o fwyd a diod crefftus, wedi datgelu ei enillwyr ar gyfer 2025, ac mae llu o gynhyrchwyr eithriadol o Gymru wedi cael eu cydnabod gyda'r anrhydeddau uchaf.
Mae cyfanswm o wyth cwmni o Gymru wedi sicrhau un wobr ar ddeg, gan gynnwys tair Aur, tair Arian, a phedair Efydd, ar draws categorïau sy'n amrywio o charcuterie, gwin a gwirodydd i fisgedi a llaeth. Caiff y gwobrau eu beirniadu gan rai o gogyddion, beirniaid a ffigurau mwyaf clodwiw diwydiant y DU, ac maent yn taflu goleuni ar y gorau o gynnyrch Prydain.
Yn arwain y dathliadau roedd Gwinllan Velfrey, a enwyd yn 'Enillydd Rhanbarthol Cymru'. Yn ogystal, enillodd eu gwin pefriog dull traddodiadol Velfrey NV wobr efydd hefyd - y tro cyntaf i gynnyrch Dynodiad Daearyddol (GI) o Gymru dderbyn yr anrhydedd hon. Creodd y gwin argraff ar y beirniaid gyda'i "gymeriad cain, mynegiannol" a'i gymwysterau cynaliadwyedd cryf.
Sefydlwyd y winllan deuluol yn 2016 ger Arberth, Sir Benfro gan Andy a Fiona Mounsey. Wrth sôn am y wobr, dywedodd y cyd-sylfaenydd Fiona Mounsey,
“Rydyn ni wrth ein bodd i gael ein henwi’n Enillydd Rhanbarthol Cymru. Ein nod erioed fu cynhyrchu gwin o’r safon uchaf o rawnwin glân, sy’n cael eu tyfu yng Nghymru wrth ofalu am y gornel brydferth hon o Sir Benfro.
Mae cael cydnabyddiaeth am ein hymdrechion cynaliadwyedd a’n crefftwaith mewn cystadleuaeth mor fawreddog yn hynod werthfawr. Gyda chymaint o gynhyrchwyr rhagorol ledled Cymru, mae cael ein dewis yn anrhydedd go iawn, ac mae’n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil."
Ymhlith yr wyth enillydd o Gymru roedd:
• Gwinllan Velfrey – Enillydd Rhanbarthol Cymru ac Efydd am eu Gwin Pefriog Cymreig nad yw’n Vintage
• Edwards – Y Cigydd Cymreig – Aur am eu Selsig Porc a Chennin; Efydd am eu Sleisys Pwdin Gwaed
• Distyllfa Dyfi – Arian am eu Jin Botanegol Brodorol Pollination Dyfi PGI
• Cwmni Bisgedi Aberffraw – Aur am eu Bisgedi Bara Brith; Arian am eu Bisgedi Traddodiadol Aberffraw
• Golden Hooves – Aur am eu Caws Cheddar Aeddfed Iawn
• Castle Dairies – Efydd am eu Menyn Hallt Halen Môn
• Anglesey Foods – Efydd am eu Chutney Cowboi
• Ham Caerfyrddin – Arian am eu Ham Caerfyrddin PGI
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae llwyddiant cynhyrchwyr Cymru yn y Great British Food Awards 2025 yn gymeradwyaeth bwerus o'r ansawdd, y creadigrwydd a'r ymrwymiad sy'n diffinio ein diwydiant bwyd a diod. O win pefriog a jin botanegol i fisgedi traddodiadol, siytni, a chigoedd ardystiedig PGI, mae'r gwobrau hyn yn arddangos amrywiaeth a rhagoriaeth anhygoel cynnyrch Cymru.
Rwy'n llongyfarch Gwinllan Velfrey yn gynnes ar eu llwyddiant fel Enillydd Rhanbarthol Cymru, ac yn estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bob cwmni buddugol arall. Mae eu llwyddiant yn rhoi Cymru'n gadarn ar y map fel cenedl o gynhyrchwyr o'r radd flaenaf, ac yn adlewyrchu cryfder a photensial ein diwydiant bwyd a diod sy'n tyfu."
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dilyn digwyddiad masnach bwyd a diod Blas Cymru / Taste Wales 2025 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, lle bu llawer o'r cynhyrchwyr hyn yn arddangos eu cynhyrchion arobryn i brynwyr rhyngwladol ac arweinwyr y diwydiant, gan roi hwb pellach i broffil byd-eang bwyd a diod Cymru.
Mae Cymru bellach yn gartref i 56 o winllannoedd cofrestredig a 3 gwindy, gyda mwy na 93 hectar o dir dan winwydd. Yn 2023, creodd cynhyrchwyr Cymru tua 178,000 potel o win, gan gynnwys 111,500 potel o win gwyn a 66,500 potel o win coch a rhosliw.
Bydd Gwobrau Gwin Cymru, a gynhelir ddiwedd mis Tachwedd, yn cynnig dathliad arall o lwyddiannau cynhyrchwyr fel Velfrey ac yn parhau i godi proffil gwinwyddaeth Cymru ar y llwyfan cenedlaethol.
Gellir dod o hyd i restr lawn o enillwyr y Great British Food Awards eleni yma