Welsh Coffee

 

MaeWelsh Coffee Co wedi cyflawni ardystiad B Corp llawn yn swyddogol, gan ddod yn ddeuddegfed cynhyrchydd bwyd a diod Cymru i fodloni'r safonau byd-eang llym o berfformiad, atebolrwydd a thryloywder cymdeithasol ac amgylcheddol a osodwyd gan B Lab.

Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i ddefnyddio busnes fel grym er lles, gan gydbwyso elw â phwrpas a gwreiddio cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar ei weithrediadau.

Rhostiwr coffi arbenigol o Fro Morgannwg a sefydlwyd yn 2011 gan Huw Williams yw Welsh Coffee Co. Mae'r cwmni'n cynhyrchu coffi o ansawdd uchel fesul tipyn bach gan ddefnyddio ffa arabica o ffynonellau moesegol yn eu safle rhostio yn Ewenni ac yn rhedeg siop goffi dan arweiniad y gymuned sydd â pholisi gofod cynnes agored yn Neuadd Gymunedol Aberogwr.

Gydag ethos y brand wedi'i wreiddio mewn cynaliadwyedd, ymwybyddiaeth ofalgar a byw ar yr arfordir, mae ardystiad B Corp yn dangos bod y cwmni'n bodloni safonau uchel o berfformiad cymdeithasol, amgylcheddol a thryloywder. Mae Welsh Coffee Co wedi ennill nifer o wobrau Great Taste am ei gyfuniadau Aur, Môr, Bendigedig, Nicaragwaidd a choffi tarddiad sengl ac mae'n dal statws Cynhyrchydd Great Taste.

Wrth sôn am y llwyddiant, dywedodd y sylfaenydd Huw Williams, 

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o fudiad sy’n tyfu yng Nghymru o fewn y diwydiant bwyd a diod sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. Mae ardystiad B Corp yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirhoedlog i gynaliadwyedd a’n cymuned leol. 

Mae ein hethos wastad wedi ymwneud â chyfuno coffi gwych â ffordd o fyw sy’n parchu ac yn amddiffyn yr amgylchedd naturiol. Y gydnabyddiaeth hon yw ein hymrwymiad i wneud pethau’n wahanol lle mae llwyddiant yn golygu pobl a’r blaned cymaint ag elw.”

Cefnogwyd taith Welsh Coffee Co tuag at yr ardystiad gan Glwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, sy’n darparu canllawiau wedi’u teilwra a dysgu rhwng cyfoedion i helpu cynhyrchwyr i lywio’r broses B Corp. Gyda dros 130 o aelodau, mae’r Clwstwr yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu economi sy’n cael ei harwain gan werthoedd ledled Cymru.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies AS, 

“Llongyfarchiadau i Welsh Coffee Co ar gyflawni ardystiad B Corp. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae busnesau Cymru yn arwain y ffordd mewn cynaliadwyedd ac arferion busnes moesegol. 

Mae gweld y nifer cynyddol o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn ennill yr ardystiad yn ddiweddar yn destun balchder mawr, ac mae gweld cwmnïau fel Welsh Coffee Co yn gosod y safon ar gyfer twf ac arloesedd cyfrifol yn gyffrous iawn.

Mae ein rhaglenni Cynaliadwyedd Bwyd a Diod yn cynnig buddion mesuradwy, go iawn i fusnesau Cymru. Maen nhw’n darparu canllawiau clir ac ymarferol ar bob cam o'u taith gynaliadwyedd.”

Hyd yn hyn, mae 48 o gwmnïau Cymru wedi cyflawni ardystiad B Corp, gan ymuno â rhwydwaith ryngwladol o dros 9,500 o fusnesau mewn 105 o wledydd a 160 o ddiwydiannau. Mae Welsh Coffee Co yn ymuno â'r 11 cynhyrchydd bwyd a diod ardystiedig o Gymru gan gynnwys Barti Rum, Coaltown Coffee, Drop Bear Beer Co, Flawsome! Drinks, Golden Hooves, Halen Môn, Hilltop Honey, Pembrokeshire Lamb, The Welsh Saucery, Tiny Rebel a Wholebake.

Wrth i'r mudiad B Corp barhau i dyfu yng Nghymru, mae llwyddiant Welsh Coffee Co yn gosod esiampl bwerus i eraill yn y diwydiant, gan brofi y gall busnes sy'n cael ei arwain gan bwrpas gyflawni llwyddiant masnachol ac effaith ystyrlon.

I gael rhagor o wybodaeth am Welsh Coffee Co, ewch i https://welshcoffee.com/

Share this page

Print this page