Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, wedi ymweld â sioe fasnach bwyd a diod fwyaf y byd yn Anuga, yr Almaen, wrth i'r diwydiant geisio parhau â'i dwf ar lwyfan byd-eang.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwerth allforion bwyd a diod Cymru wedi tyfu £269 miliwn ers 2019, sy’n gynnydd o 47%. Mae hyn yn cynrychioli cyfanswm gwerth o £839 miliwn yn 2024, gyda chynhyrchion cig a grawnfwydydd yn y categorïau cryfaf. Nod ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog oedd adeiladu ar y llwyddiannau diweddar hyn a chynyddu presenoldeb y diwydiant yn rhyngwladol.
Roedd amserlen y Dirprwy Brif Weinidog yn cynnwys cyfarfod â charfan gref o fusnesau bwyd a diod Cymru, ynghyd â buddsoddwyr Ewropeaidd allweddol yng Nghymru, fel Frostkrone Food Group, Village Bakery Dunbia, Kepak a Dawn Meats. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, roedd y trafodaethau'n cynnwys buddsoddi parhaus a chynlluniau ar gyfer eu safleoedd yng Nghymru.
Yn ogystal, cymerodd y Dirprwy Brif Weinidog ran mewn Bwrdd Crwn y Bwrdd Ardoll Cig ledled y DU gyda'i gymheiriaid Gweinidogol o’r Alban a Gogledd Iwerddon, ynghyd â ffigurau uwch o Hybu Cig Cymru, Quality Meat Scotland a'r Comisiwn Da Byw a Chig, Gogledd Iwerddon. Pwrpas y cyfarfod oedd trafod y sefyllfa bresennol o fewn y diwydiant, ynghyd â chyfleoedd i alinio polisi ar draws y gwahanol lywodraethau datganoledig ar gyfer ffyniant yn y dyfodol.
Wrth siarad am ei brofiad yn y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: "Roedd yr ymweliad hwn ag Anuga yn gyfle amhrisiadwy i gwrdd â buddsoddwyr byd-eang allweddol yng Nghymru, ac i adeiladu ar ein llwyddiannau allforio diweddar a'n henw da rhyngwladol cynyddol am fwyd a diod o safon.
“Yn ogystal, cefais gyfarfod hynod gynhyrchiol gyda fy nghydweithwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon ynghylch y diwydiant cig, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar yr ysbryd hwn o gydweithredu yn y dyfodol wrth i ni gydweithio er budd ein ffermwyr a'r cymunedau gwledig ehangach.
“Mae bwyd a diod Cymru yn gonglfaen i’n heconomi ac rydym ni eisiau ei weld yn parhau i dyfu a llwyddo. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod y byd yn gwybod am yr ansawdd sydd gennym ni i’w gynnig, ac rwy’n falch iawn o sefyll ochr yn ochr â’n cynhyrchwyr a’n gweithgynhyrchwyr wrth i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru’n parhau i ffynnu ar lwyfan rhyngwladol.”
Anuga, a gynhelir bob dwy flynedd yn Cologne, yw ffair fasnach fwyaf a mwyaf dylanwadol y byd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. O 4 - 8 Hydref, mae’r digwyddiad yn dod â dros 7,900 o arddangoswyr a 140,000 o ymwelwyr o fwy na 200 o wledydd ynghyd, gan gynnig llwyfan deinamig i gynhyrchwyr, prynwyr a llunwyr penderfyniadau drafod tueddiadau, meithrin partneriaethau a llywio dyfodol bwyd a diod.
Yn ystod ei ymweliad, galwodd y Dirprwy Brif Weinidog heibio i bafiliwn Cymru Wales hefyd, gan gyfarfod â busnesau oedd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i fynychu. Roedd rhain yn cynnwys What’s Cooking? for Professionals, Morning Foods, Bloomin’ a Hufenfa De Arfon.
Mae Bloomin’ yn arbenigo mewn cymysgeddau madarch gweithredol, ac yn frand lles sy’n tyfu’n gyflym a sefydlwyd gan y brodyr Jesse a Ryan Owens. Maen nhw’n cyfuno cynhwysion organig, addasogenig â dosio clinigol i helpu gyda ffocysu, egni ac ymlacio. Gyda’r nod o ddod â’r “mudiad madarch” i’r brif ffrwd, mae’r cwmni wedi tyfu o gysyniad caffi glan môr i gael ei stocio mewn dros 900 o leoliadau lletygarwch ledled y DU.
Dywedodd Jesse Owens, sylfaenydd Bloomin’ Foods, “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o Anuga 2025. Mae'n gyfle gwych i arddangos sut y gall arloesi yng Nghymru, trwy arferion cynaliadwy, ddarparu cynhyrchion beiddgar, prydferth sy'n sefyll allan ar silffoedd ac mewn ceginau. O'n dechreuad diymhongar ym Mhorthcawl i ddod yn weithgynhyrchwr o gynhyrchion swyddogaethol, rydyn ni’n falch o gynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol.
“Mae'r digwyddiad hwn yn agor drysau i farchnadoedd allforio newydd, ac rydym yn hynod o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i'n helpu i gyrraedd Anuga, ac am hyrwyddo busnesau arloesol, Cymreig fel ein un ni.”
Cwmni arall sy'n chwilio am lwyddiant yn Anuga yw What’s Cooking? for Professionals, cynhyrchydd bwyd sy'n edrych ymlaen ac sy'n arbenigo mewn prydau parod a bwydydd cyfleus. Gyda ffocws cryf ar ansawdd, cynaliadwyedd a thueddiadau defnyddwyr, mae'r cwmni wedi meithrin enw da am ddarparu prydau blasus, wedi'u hysbrydoli gan gogyddion, sy'n adlewyrchu'r gorau o fwyd traddodiadol a bwyd byd-eang.
Mae eu presenoldeb yn Anuga yn tynnu sylw at eu huchelgais i ehangu i farchnadoedd rhyngwladol a chysylltu â phrynwyr byd-eang fel yr eglura Samir Edwards, Cyfarwyddwr y Sianel Diwydiant a Gwasanaeth Bwyd, “Mae Anuga yn cynnig llwyfan unigryw i ni gysylltu â phrynwyr rhyngwladol a rhannu ein stori. Rydyn ni’n falch o arddangos ein cynhyrchion arloesol diweddaraf, sy'n cyfuno cynhwysion o ffynonellau lleol â blasau beiddgar a fformatau ymarferol sy'n cwrdd ag anghenion defnyddwyr heddiw.
“Mae hefyd yn gyfle gwych i feithrin perthnasoedd a allai arwain at gyfleoedd allforio cyffrous a chydweithio gyda phrynwyr, dosbarthwyr a chyflenwyr ledled Ewrop a thu hwnt yn y dyfodol.”
Mae rhaglen Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cynhyrchwyr gyda chymorth allforio, cyllid arloesi a datblygu sgiliau. Mae Anuga 2025 hefyd yn gwasanaethu fel cyswllt allweddol â Blas Cymru / Taste Wales, a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn, digwyddiad masnach bwyd a diod blaenllaw arall lle gall cynhyrchwyr Cymru arddangos eu rhagoriaeth i brynwyr a phartneriaid byd-eang.
Am ragor o wybodaeth am sut y gall Llywodraeth Cymru eich helpu chi i gyrraedd marchnadoedd newydd trwy allforio, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/allforio