Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn arddangos yn FHA, Bwyd a Diod Singapore 2026. Bydd y sioe yn cael ei chynnal rhwng 21-24 Ebrill 2026 yn Singapore Expo. Sylwer, mae chweched arddangosfa ProWein Singapore, sy'n rhan o Gyfres ProWein y Byd o ffeiriau masnach gwinoedd a gwirodydd blaenllaw, hefyd yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ar yr un pryd. Mae ceisiadau nawr ar agor os hoffech le ym mhafiliwn Cymru...
Foodex Japan, 10-13 Mawrth 2026
Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd cwmnïau Bwyd a Diod Cymru i arddangos gyda ni yn Foodex Japan, 10-13 Mawrth 2026. Foodex, Japan yw’r platfform eithaf ar gyfer busnes, masnach, rhwydweithio ac arloesi, gan ddenu arweinwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd. Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu â chostau arddangos. Drwy gymryd rhan, dyma’r manteision i’ch busnes chi: Ffordd gost effeithiol o ymweld â’r farchnad Cael presenoldeb o dan frand Cymru Wales ochr yn...
Rhaglen Twf
Gwahoddir busnesau bwyd a diod i ymuno â’r Rhaglen Twf ar gyfer Briffiadau a Chlinigau Ymgynghorwyr Twf, gan gynnwys: Profiadau go iawn gan arloeswyr Cymreig Diweddariad 'Troi Treth yn Ddigidol 2026' gan Azets Clinigau un-i-un gyda Ymgynghorwyr Twf Rhwydweithio a chinio Cofrestrwch: 10 Chwfror – Bwyd Cymru Bodnant, Conwy - AR GAU Cofrestrwch: 13 Chewfror – Bragdy Tiny Rebel, Casnewydd Cofrestrwch: 17 Chwefror – Canolfan Bwyd Cymru, Horeb - AR GAU
Gweithdy Maeth Cymru a'r BioHYB CEW Cynhyrchion Naturiol
Ydych chi'n dyfwr sy'n wynebu costau mewnbynnu cynyddol, pwysau'r hinsawdd neu'n colli cnydau? Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau ac sy'n archwilio sut gall cynhyrchion naturiol, bioamrywiaeth a rheolaeth integredig ar blâu gefnogi cynhyrchu bwyd mewn ffordd fwy gwydn. Byddwch yn cael cyfle i glywed gan ymchwilwyr ac arbenigwyr yn y sector sy'n gweithio ar ddewisiadau amgen yn y byd go iawn i fewnbynnau gydag effaith uchel. 📍Sefydliad Awen, Campws...
Blas Cymru / Taste Wales 2025 - Cwrdd â’r Cyflenwr
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a lansiwyd gyntaf yn 2017 ac a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o’r byd ynghyd. Gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru Y digwyddiad hwn yw'r digwyddiad blaenllaw yng Nghymru. Arddangoswch eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw y diwydiant o fanwerthu a gwasanaeth bwyd, rhwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant bwyd...
Anuga, Cologne - Arddangosfa Masnach Bwyd a Diod y Byd
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Cymru/Wales yn sioe Anuga. Cologne rhwng 04 Hydref – 08 Hydref 2025. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw 11 Gorffennaf 2025. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â’ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin.
AM DDIM Hyfforddiant Cynaliadwyedd
Lleoliad: Online (Google Meet) Dyddiad: 09/09/2025 Amser: 9:30 am Hyfforddiant Cynaliadwyedd i Gwmnïau Bwyd a Diod Mae’r cwrs hyfforddi hwn wedi ei deilwra i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i berchnogion a rheolwyr cwmnïau bwyd a diod i adeiladu cynlluniau ymarferol sy’n ymateb i newid hinsawdd a’r argyfwng byd natur, ac yn bodloni gofynion cwsmeriaid. O ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ogystal â galw sylweddol yn y farchnad, mae prynwyr a defnyddwyr yn gynyddol yn chwilio...
Addasu ar gyfer Yfory: Gwydnwch Hinsawdd ym Maes Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru
Diogelu’ch elw – nawr yw’r amser i weithredu. Dewch i ymuno â ni ar gyfer cyflwyniad a thrafodaeth ymarferol a diddorol i dynnu sylw at addasiadau a all helpu i ddiogelu’ch busnes bwyd neu ddiod rhag eeithiau newid hinsawdd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi profi tymereddau uwch a thonnau gwres, stormydd a glaw trwm yn amlach, gan arwain at lifogydd. Mae cadwyni cyflenwi yn y DU ac yn fyd-eang yn cael eu tarfu...
Wythnos Gwin Cymru
Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd Wythnos Gwin Cymru yn digwydd o 30 Mai i 8 Mehefin. Bydd y digwyddiad wythnos o hyd hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ac angerdd gwinllannoedd Cymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous o deithiau gwinllannoedd, sesiynau blasu, sesiynau cwrdd â'r cynhyrchwyr, cynigion arbennig a dathliadau i selogion gwin a'r cyhoedd. Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter clystyrau Llywodraeth...