Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad nodedig hwn, a lansiwyd gyntaf yn 2017 ac a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd o bob rhan o’r byd ynghyd.
Gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru
Y digwyddiad hwn yw'r digwyddiad blaenllaw yng Nghymru. Arddangoswch eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw y diwydiant o fanwerthu a gwasanaeth bwyd, rhwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â darganfod cynhyrchion a thueddiadau arloesol.
I gymryd rhan, mae'n ofynnol i gwmnïau fod yn fusnes gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi cyflawni ac yn cynnal isafswm BRCGS neu Salsa neu achrediad cyfatebol.
Gwybodaeth i Brynwyr - Manwerthu a Gwasanaeth Bwyd
Mae Cymru wedi ymgymryd â buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn galluoedd a chapasiti cynhyrchu bwyd a diod.
Mae tîm Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi dylunio digwyddiad Blas Cymru ar gyfer prynwyr proffesiynol o fanwerthu, gwasanaeth bwyd, lletygarwch - hefyd datblygwyr a chogyddion.
Uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad yn cynnwys:
Cwrdd â diwydiant o dan yr un to - cyfraniadau gan gwmnïau achrededig SALSA a BRCGS
Canolbwyntio ar arloesi gyda 200 o gynnyrchion newydd yn cael eu harddangos
Arddangosfa cynnyrch 3000 gyda phrynwyr yn gallu chwilo'n annibynnol
Amser effeithlon - System ddyddiadur i drefnu cyfarfodydd rhagarweiniol byr
Gwybodaeth arbenigol Bwyd a Diod Cymru i helpu i nodi cyflenwyr addas
Marchnad Ser Disglair- Cysylltu â chyflenwyr newydd
Cofrestriad
Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru i fynychu, anfonwch e-bost at: bwydadiodcymru@mentera.cymru