Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant
Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Trosolwg o'r Prosiect
Ariennir Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Mentera, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant bwyd a diod i ddatblygu gweithlu medrus a galluog.
Nod ein tîm ymroddedig yw paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i newidiadau a chyfleoedd ym meysydd gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod.
Rydym yn cynnig mynediad a chyllid tuag at raglenni hyfforddi a chyrsiau wedi’u teilwra i helpu’ch busnes i ffynnu. O sesiynau rhithiol i gymwysterau ôl-raddedig gyda ffocws ar:
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Marchnata a Gwerthu
- Cynhyrchu a Gweithgynhyrchu
- Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio
- Ychwanegu Gwerth at Cydymffurfiaeth a Statudol
- Pwrpasol ac Arweinir gan Fusnes
Gallwn helpu gyda heriau technegol, busnes ac amgylcheddol ochr yn ochr â chymorth busnes a gwaith ymgysylltu ieuenctid.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â sgiliau-cymru@mentera.cymru neu ewch i https://rhaglenni.mentera.cymru/foodanddrinkskillswales/
Blas ar Gymru
Mae Blas ar Gymru yn bartneriaeth o gogyddion proffesiynol, cwmnïau arlwyo ac eraill sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau bwyd a lletygarwch, sy'n meithrin perthynas gyda phob rhan o'r gadwyn fwyd gan gynnwys cynhyrchwyr craidd, gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr yn ogystal â sefydliadau addysgol, i ddatblygu a chodi proffil goginio Cymru, ei sefydliadau a'r rhai sy'n gweithio o fewn iddynt. Mae'r Gymdeithas yn datblygu cogyddion a chwmnïau arlwyo drwy hyfforddiant, cystadlaethau, arddangosfeydd ac ymweliadau ac mae'n hwyluso'r broses o rannu a chyfnewid sgiliau, syniadau, arbenigedd gogyddol a gwybodaeth.
http://www.welshculinaryassociation.com/