Rhaglen Datblygu Masnach

Nod ein Rhaglen Datblygu Masnach yw eich helpu chi, fel cynhyrchwr, prosesydd neu ddosbarthwr bwyd a diod yng Nghymru, i dyfu eich busnes a chreu swyddi. Mae gennym raglenni penodol i gefnogi cwmnïau twf uchel i roi sylw i fylchau o ran sgiliau a gallu neu i ychwanegu profiad helaethach o reolaeth fasnachol at yr hyn sydd gennych chi.


Crynodeb y Cynllun Manwerthu

Mae'r Cynllun Manwerthu yn cynnwys gwybodaeth am y cyfleuoed a'r sialensau amrywiol y mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn eu hwynebu ym marchnad manwerthu y DU ar hyn o bryd. Mae'n ymchwilio i dueddiadau defnyddwyr i greu amcanion allweddol  er mwyn tyfu a datblygu bwyd a diod Cymru ymhellach ym marchnad fanwerthu y DU.


Rhaglen Datblygu Masnach - Gweminarau

Ar hyn o bryd, mae'r Rhaglen Cymorth Datblygu Masnach yn rhedeg nifer o weminarau sydd â'r nod o ddarparu gwybodaeth ymarferol mewn amrywiol o feysydd i helpu busnesau i ddatblygu.

Cliciwch yma am restr o'r gweminarau.


Meet the buyer

Cwrdd â’r prynwyr ac ennill sgiliau newydd

Mae cryfhau’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru’n flaenoriaeth. Mae ein digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn denu manwerthwyr, cyfanwerthwyr a gwerthwyr annibynnol mawr yn y maes bwyd a diod.  Rydym yn rhoi syniad i chi am ofynion prynu ac yn rhoi cyfle unigryw i gwmnïau hybu gwerthiant. Mae ein Rhaglen Sgiliau Masnachol yn rhoi sylw i'r bylchau o ran sgiliau a gallu cwmnïau ac yn datblygu safonau rheolaeth fasnachol broffesiynol yn y diwydiant yng Nghymru. Mae cyngor ac arweiniad pwrpasol ar gael i staff allweddol ynghylch materion sy’n ymwneud â’r diwydiant ac mae mentora hirdymor eisoes yn cefnogi’r sectorau pobi, melysion a llaeth. 

Ddarllen mwy am ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr
 


Y Rhaglen Sgiliau Masnachol

Mae’r Rhaglen Sgiliau Masnachol yn gyfres o weithdai a chymorth 1:1 sydd wedi’u hanelu at fusnesau bwyd a diod Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau er mwyn iddynt ddatblygu eu gallu i gyflawni cynlluniau masnachol ar draws holl swyddogaethau busnes.