Cwrdd â’r prynwr, mentora, datblygu cyflenwyr, sgiliau masnachol, ac ati

Meet the buyer

Gallwn eich helpu i ganfod dewisiadau twf posib a chanolbwyntio arnynt, eich cefnogi i hybu gwerthiant a phroffidioldeb drwy sicrhau bod eich cynnyrch a’ch gallu’n bodloni’r galw gan y cwsmeriaid.  Gallai hyn gynnwys dadansoddiad diduedd o fusnesau bwyd Cymru ac argymhellion ar gyfer rhoi sylw i faterion allweddol.   Mae mentora pwrpasol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion sy’n ymwneud â’r diwydiant ar draws sawl sector.

 

 


Cwrdd â’r Prynwr

Mae ein digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr gyda manwerthwyr, cyfanwerthwyr a gwerthwyr annibynnol yn canolbwyntio ar gwmnïau bwyd a diod sydd â’r potensial a’r uchelgais i dyfu. Cryfhau’r gadwyn gyflenwi yw’r nod drwy gael syniad ynghylch gofynion prynu’r prynwyr hyn.  Mae cyfle unigryw i hybu gwerthiant ac rydym yn annog nifer o gyflenwyr i ddod i’r digwyddiadau hyn.
 


Rheoli Categorïau 

Er mwyn llwyddo yn y farchnad, rhaid i gwmnïau o Gymru gael gwybodaeth fanwl am eu categori er mwyn iddynt gynnig rhywbeth sy’n well neu’n wahanol neu’n gystadleuol o ran pris i fanwerthwyr, a rhywbeth y bydd cwsmeriaid yn dymuno ei brynu.  Bydd ein dadansoddiad manwl o Reoli Categorïau yn helpu i ganfod bylchau a thueddiadau yn y farchnad, gan alluogi busnesau i roi tystiolaeth am eu cynigion i’r manwerthwyr mawr.
 


Rhaglen Sgiliau Masnachol

Diben y Rhaglen hon yw rhoi sylw i’r bylchau o ran sgiliau a gallu ymhlith cwmnïau sy’n tyfu yng Nghymru er mwyn datblygu a chodi safonau rheoli a gweithgynhyrchu masnachol proffesiynol yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.