Cael gafael ar eiddo

Find a property

Eiddo sy’n gystadleuol o ran cost

Mae marchnad eiddo masnachol Cymru’n un gystadleuol iawn o ran cost.Mae yna ddewis o eiddo diwydiannol ac unedau bwyd, a gallwn eich helpu i ganfod yr eiddo iawn i chi a'ch anghenion busnes, yn y lleoliad sydd fwyaf addas i chi ac sy’n golygu mynediad gwych i’ch marchnadoedd.   

Os ydych chi eisoes yn cynhyrchu ar raddfa fwy, ni yw’r dewis naturiol ar gyfer prosesu a gweithrediadau eraill, a gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i’r eiddo priodol, sy’n gystadleuol o ran y gost, mewn rhanbarth lle mae gweithlu medrus.


Cam mentrus

Yng Nghymru, gallech hefyd elwa o Lwfansau Cyfalaf Uwch petaech yn penderfynu symud i eiddo mewn ardaloedd penodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu saith Ardal Fenter, fel y rheini yng Nglannau Dyfrdwy, yn Sir Benfro ac yn Eryri, ac mae’r lwfansau ar gael yn yr ardaloedd hyn. Mae rhai Ardaloedd mewn ardaloedd Haen 1 hefyd, sy’n golygu gallai cwmnïau sy’n ymsefydlu yno elwa o’r lefel uchaf o gymorth grant yn y DU.