Canolfannau arloesi

Mae gan ganolfannau bwyd rôl strategol, yn darparu cymorth technegol i fusnesau sy’n dechrau, busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr bwyd sy’n bodoli’n barod. Os ydych chi’n fusnes newydd, os oes angen help arnoch i dreialu cynnyrch newydd, neu os ydych yn chwilio am gyngor a hyfforddiant arbenigol, mae timau gwybodus yn darparu'r atebion.


Pwy yw Arloesi Bwyd Cymru?

 

Wedi’i leoli mewn tair canolfan fwyd ledled Cymru, mae tîm o arbenigwyr diwydiant Arloesi Bwyd Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol yn helpu cwmnïau bwyd a diod i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. O fusnesau newydd i gwmnïau sefydledig, mae Arloesi Bwyd Cymru wrth law i ddarparu cefnogaeth dechnegol a masnachol:

Darganfyddwch fwy am Arloesi Bwyd Cymru


Prosiect HELIX - cymorth technegol a masnachol a ariennir ar gyfer cwmniau bwyd a diod Cymru 

Os yw’ch cwmni bwyd a diod wedi’i leoli yng Nghymru yna efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth a ariennir gan Project HELIX gan Food Innovation Wales. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth technegol a masnachol. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.

Sut gall Arloesi Bwyd Cymru helpu?

Mae Project HELIX yn cynnig cefnogaeth sydd wedi’i theilwra i anghenion eich cwmni.

Mae Prosiect HELIX yn darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, gan gefnogi cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ail-ffurfio cynhyrchion gwreiddiol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, ac ymlaen i fasged siopa’r defnyddiwr.

Mae Prosiect HELIX yn gweithio gyda chwmnïau o Gymru i ddadansoddi’n fforensig bob cam o’r broses weithgynhyrchu, gan adnabod ffyrdd o leihau gwastraff a chyflwyno arbedion ar draws rheolyddion proses, dylunio safleoedd a datblygu systemau.

Mae’r dull strategol o weithio gan Broseict HELIX yn galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i elwa o arfer gorau a gwybodaeth o’r diwydiant o bob rhan o’r byd. Er enghraifft, gall cwmnïau dderbyn cymorth i ennill achrediad trydydd parti megis BRC a SALSA, gan agor y drws i farchnadoedd newydd ar gyfer eu cynhyrchion.

Darganfyddwch fwy am gymorth a ariennir gan Brosiect HELIX


Ydych chi wedi'ch rhestru yng Nghyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru? 

Mae Cyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru yn cynnwys cofnodion gan dros 500 o gwmnïau ac mae'n bodoli i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gwerthiant cynhyrchion Cymru yn y DU ac ar draws y byd.

Mae'n rhad ac am ddim i gael eich cynnwys ac mae cwmnïau bach a mawr i'w gweld yn y cyfeiriadur. Os ydych chi eisoes wedi'u rhestru yna gallwch chi ddiweddaru'ch cofnod yma.

Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchwyr, cyd-bacwyr, cyflenwyr cynhwysion a gweithgynhyrchwyr pecynnu yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch BRCGS, sianel gyflenwi, gallu allforio ac ardystio.

Mewn ymdrech i hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlonrwydd gwastraff, gall cwmnïau hysbysebu unrhyw allbynnau o'u proses gynhyrchu fel sgil-gynhyrchion neu wastraff a allai fod o werth i fusnes arall.

Ymrestrwch am ddim nawr