Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd cwmnïau Bwyd a Diod Cymru i arddangos gyda ni yn Foodex Japan, 10-13 Mawrth 2026.
Foodex, Japan yw’r platfform eithaf ar gyfer busnes, masnach, rhwydweithio ac arloesi, gan ddenu arweinwyr diwydiant a gweithwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu â chostau arddangos.
Drwy gymryd rhan, dyma’r manteision i’ch busnes chi:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â’r farchnad
- Cael presenoldeb o dan frand Cymru Wales ochr yn ochr â stondin y DU
- Rhwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr blaenllaw yn y farchnad
- Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill o Gymru a’r DU
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Am ffurflen gais neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: