Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru i gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir yn targedu y Swistir, a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru.
Mae BioArloesedd Cymru yn cynnig cyrsiau dysgu o bell yn seiliedig ar yr ecomoni gylchol, gyda nifer o'r rhain yn canolbwyntio ar gynhyrchu a phrosesu bwyd a diod.
Sicrhaodd Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE fasnach ddi-dariff i fusnesau sy'n masnachu rhwng y DU a'r UE ar ôl diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020. Fodd bynnag, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y tariff hwn a'r cwota masnach rydd, mae angen i gwmniau gydymffurfio gyda Rheolau Tarddiad a bennir gan y fargen. Bydd y gweminar awr hon yn rhoi trosolwg o'r rheolau newydd hyn.
Er na all pobl ymweld â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE oherwydd pandemig COVID-19, rydym yn dal i gynnal ein digwyddiadau Canolfan Diwydiant Bwyd Meet ZERO2FIVE ar-lein fel y gall cwmnïau ddarganfod mwy am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig.
Fel rhan o Gynllun Adfer ar ôl Covid-19 Bwyd a Diod Cymru, bydd Levercliff yn cyflwyno cyfres o 10 gweminar ym mis Ionawr 2021 wedi’u cynllunio i roi Gwybodaeth am y Farchnad Fanwerthu i gynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghymru yn ymwneud â chategorïau perthnasol.
Er na all pobl ymweld â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE oherwydd pandemig COVID-19, rydym yn dal i gynnal ein digwyddiadau Canolfan Diwydiant Bwyd Meet ZERO2FIVE ar-lein fel y gall cwmnïau ddarganfod mwy am y gefnogaeth y gallwn ei chynnig.
Bydd prosiect Ecosystemau Bwyd Iach Ardal yr Iwerydd yn darparu gwasanaethau hyfforddi a chymorth i fusnesau sy'n gweithio yn y maes hwn. Gwahoddir busnesau bach a canolig Cymreig o'r sector bwya a diod iach i gymryd rhan mewn arolwg er mwyn helpu i lunio'r hyfforddinat a'r gwasanaethau a gynigir.
I'ch cynorthwyo gyda'r mesurau newydd, rydym wedi trefnu sawl gweminar a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi i'ch galluogi i barhau i symud cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae Chambers Wales wedi cynllunio'r cwrs ar-lein hwn wedi ei deilwra i sector bwyd a diod Cymru. I'ch helpu chi i ddeall y defnydd o godau nwyddau a thariffau a'ch tywys i ddefnyddio'r codau cywir ar gyfer eich cynhyrchion.
Oes gennych chi syniad gwych am gynnyrch bwyd neu ddiod newydd ac eisiau gwybod mwy am y broses o ddatblygu rhywbeth o'r cysyniad i'r lansiad? Ymunwch â'r weminar i ddysgu am y gefnogaeth dechnegol a marchnata a gynigir gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.