Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Mae’r uchelgais hon yn adlewyrchu’r brys a’r ymrwymiad a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ymateb i ffocws cynyddol gan ddefnyddwyr i brynu cynhyrchion sydd â’r effaith amgylcheddol leiaf posibl ac a gynhyrchir yn foesegol o gadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Mae’n edrych yn debygol yn y tymor hir mai’r manwerthwyr a’r gwneuthurwyr hynny sy’n gallu dangos cyfrifoldeb busnes trwy welliannau cynaliadwy sy’n blaenoriaethu gwerthoedd amgylcheddol, cymdeithasol, iechyd ac ansawdd fydd yn cael eu ffafrio fwyaf gan ddefnyddwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r siwrnai gynaliadwy i fusnesau cyfrifol yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Cefnogir hyn trwy nifer o fentrau cynaliadwyedd sydd yn bodoli eisoes a rhai newydd, ac mae hyn wedi ei grynhoi yma: cefnogi busnesau cynaliadwy

Grant achredu B-Corp:

Mae B-Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Bydd y fenter hon yn ad-dalu hyd at 100% o ffioedd y flwyddyn gyntaf. Mae ceisiadau ar agor nawr i gael achrediad rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2023. I gael copi o’r ffurflen gais, cysylltwch â FoodBIS@gov.wales

Share this page

Print this page