Penodi aelod o is-grŵp Newid Hinsawdd, Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Materion Gwledig gwrth-hiliol Cymru (CCESRA): cynrychiolwyr amrywiaeth
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) ym mis Mehefin 2022, ac fe'i ddiweddarwyd yn 2024. Ei nod yw datblygu llwybr trawsnewidiol tuag at greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Bwriad y cynllun yw bod yn fframwaith sy'n ymdrechu i gyflawni camau gwirioneddol i wneud cynnydd tuag at ei darged uchelgeisiol. Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn seiliedig ar realiti hiliaeth yn hytrach na theori, mae wedi'i ddatblygu trwy broses o gyd-gynhyrchu, sy'n...