Codi gwydraid i lwyddiant a gwobrau gwin a chaws Cymreig
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi llwyddo mewn dwy gystadleuaeth fawreddog, gan arddangos yr ansawdd a'r crefftwaith rhagorol sy'n gwneud cynnyrch Cymru ymhlith y gorau yn y byd. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru eu Gwobrau Gwin Cymru 2025 yng Ngwinllan Llanerch, gan ddod â bron i 60 o winoedd o bob cwr o Gymru ynghyd. Canmolodd y panel beirniadu, dan arweiniad yr arbenigwr gwin enwog Oz Clarke, hyder a chymeriad gwinoedd Cymru, gan...