Blas Cymru showcase, Barti Rum Cocktail and Halen Mon Spiced pumpkin salt

 

Bydd dros 200 o gynhyrchion newydd yn un o brif atyniadau digwyddiad Blas Cymru / Taste Wales – Cwrdd â’r Prynwr, gyda 150 o gyflenwyr bwyd a diod o Gymru yn cymryd rhan a chyfle i 300 o brynwyr gwadd gwrdd â chenedl o arloeswyr bwyd a diod.

Bydd sioe fasnach bwyd a diod flaenllaw Llywodraeth Cymru, a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru, Gwesty’r Celtic Manor ar 22-23 Hydref, yn dod â gweithwyr proffesiynol bwyd o bob cwr o’r byd ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf yn sector bwyd a diod ffyniannus Cymru, ac i gymryd rhan mewn masnachu bywiog.

Gyda chefnogaeth buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn arloesedd a gallu cynhyrchu, mae diwydiant bwyd a diod Cymru wedi rhagori ar dargedau twf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r digwyddiad yn gweithredu fel catalydd ar gyfer llwyddiant pellach [1].

O fanwerthu a gwasanaeth bwyd i gynhyrchion label preifat, bydd hyd at 300 o brynwyr y diwydiant yn cael cyfle unigryw i ddarganfod y diweddaraf sydd gan Gymru i’w gynnig o dan un to. Bydd y 200 detholiad o gynhyrchion newydd yn rhan o arddangosfa ehangach o dros 3,000 o gynhyrchion Cymreig a fydd yn cael eu harddangos, a disgwylir iddynt gynhyrchu miliynau o bunnoedd mewn cyfleoedd masnach a gwerthiannau, gan adlewyrchu enw da cadarn y sector am ansawdd, creadigrwydd ac effaith fasnachol.

Ymhlith y detholiad o gynhyrchion newydd cyffrous mae cynhyrchion sy'n adlewyrchu dull beiddgar a dychmygus y sector, gan gynnwys mêl-fwydydd, te pefriog, bara siâp het, caws gafr mêl poeth, tatws bach carbon niwtral, a llawer mwy.

Mae'r cynhyrchion arloesol hyn yn cael eu gyrru gan fentrau Llywodraeth Cymru fel Rhaglen HELIX, Rhwydwaith Clwstwr a Rhaglen Cywain, sy'n cefnogi cydweithio, creadigrwydd a thwf ar draws y sector, o fusnesau newydd i frandiau sefydledig.

Bydd Halen Môn, sy'n enwog am ei halen môr llwyddiannus, yn datgelu dau gynnyrch newydd. Dywed y sylfaenydd Alison Lea Wilson,

“Yn Blas Cymru / Taste Wales eleni, byddwn yn datgelu dau gynnyrch newydd – ein sbeis Pwmpen Hallt a ddatblygwyd gyda’r seren TikTok Condiment Claire, a’n cymysgedd ‘Pawb’ newydd, sydd wedi’i greu gyda Cegin Y Bobl. Mae’r ddau gynnyrch yn ychwanegu dyfnder a diddordeb at brydau bob dydd, ac mae’r digwyddiad yn lle gwych i’w cyflwyno i’r farchnad yn iawn.”

Hefyd yn datgelu cynnyrch newydd cyffrous bydd Barti Rum, sydd hefyd yn noddwr balch o’r digwyddiad. Dywed y sylfaenydd a’r cyfarwyddwr Jonathan Williams,

“Rydyn ni wrth ein bodd yn noddi Blas Cymru / Taste Wales 2025 ac yn cael bod yn rhan o ddathliad mor ddeinamig o fwyd a diod Cymru. Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i arddangos y creadigrwydd a’r ansawdd sy’n dod o Gymru, ac rydyn ni’n falch o gyflwyno ein detholiad ddiweddaraf o ganiau parod i’w hyfed, a ddatblygwyd gyda chyfleustra mewn golwg. 

Mae’n gyfle gwych i gysylltu â phrynwyr ac arweinwyr y diwydiant sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesedd a tharddiad.”

Hefyd yn nigwyddiad 2025 mae Marchnad y Sêr Newydd, lle pwrpasol i gysylltu â chyflenwyr sy'n dod i'r amlwg, sy’n cynnig cyfle i brynwyr ddarganfod yr enwau mawr nesaf ym mwyd a diod Cymru.

Gyda dros 150 o gyflenwyr achrededig o Gymru a disgwyl hyd at 300 o brynwyr proffesiynol, mae'r digwyddiad yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth yrru twf economaidd a llwyddiant rhyngwladol i fusnesau Cymru.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

“Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn parhau i greu argraff gyda'i greadigrwydd, ei arloesedd, ei uchelgais - a dyma ei gyfle i ddangos hynny ar lwyfan byd-eang. Gyda dros 3,000 o gynhyrchion o safon yn cael eu harddangos, mae hwn yn dyst pwerus i lwyddiannau diweddar y sector. Mae gennym stori wych i'w hadrodd, a chynhyrchion o'r radd flaenaf i'w rhannu, a'r digwyddiad hwn yw’r llwyfan perffaith i wneud hynny.”

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiad Blas Cymru / Taste Wales eleni, ewch i https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/sut-gallwn-ni-helpu/blas-cymru-taste-wales 

[1] https://www.llyw.cymru/diwydiant-bwyd-diod-cymru-yn-tyfu-10 

Share this page

Print this page