Mae blas Cymru yn rhywbeth y dylai pawb ei brofi! Os ydych chi yng ngyffiniau Ely’s Yard (oddi ar Brick Lane yng nghanol yr East End) ar Chwefror 26ain a 27ain, galwch draw i gwrdd â rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a darganfod eu cynnyrch hynod flasus, wrth i ni baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af. Dewch i weld ein cegin deithiol a blasu amrywiaeth eang o fwyd a diod...
Sioe Deithiol Bwyd a Diod Cymru
Dewch i flasu rhywbeth arbennig o Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi! I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, rydyn ni’n mynd â’n cynhyrchwyr bwyd a diod gorau ar daith. Bydd ein cegin deithiol yn ymweld â Bryste, Llundain a Lerpwl ble gallwch chi flasu amrywiaeth eang o fwyd a diod Cymreig, o bice ar y maen traddodiadol wedi’u pobi’n ffres i Selsig Morgannwg a chrempogau lafwr gwyrdd sawrus.
Trafodaeth Tir Sy’n Profi Amaeth-Roboteg Cenedlaethol.
Mae prosiect a ariennir gan SBRI/Arloesi DU yn defnyddio gweithgareddau rhyngweithiol fel arolygon, cyfweliadau un-i-un a gweithdai rhithwir a hwylusir i gyflwyno adroddiad dichonoldeb cynhwysfawr sy'n ystyried: Yr heriau sy'n wynebu'r sector bwyd-amaeth ar hyn o bryd ac yn y Dyfodol Yr arbenigedd roboteg sy'n ehangu a allai fynd i'r afael â heriau; Y model dylunio, adnoddau, sgiliau a busnes gorau posibl ar gyfer Sail Profi Roboteg Bwyd-Amaeth; a Y berthynas rhwng ffactorau pwysig fel...
Gulfood Dubai 2023
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Gulfood, Dubai 20 Chwefror - 24 Chwefror 2023. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 24 Hydref 2022. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â'ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin
Gulfood, Dubai 13 – 17 Chwefror 2022
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi dychwelyd o Gulfood, Dubai yn ddiweddar (13 – 17 Chwefror 2022), yr arddangosfa fasnach ryngwladol gyntaf a fynychwyd gan yr Is-adran Fwyd mewn dwy flynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Rhoddodd y sioe fasnach gyfle i gwmnïau arddangos eu cynnyrch i lu o brynwyr a dosbarthwyr wyneb yn wyneb unwaith eto, gan ddangos eu bod yn dal i fod ar agor ar gyfer busnes ac yn ceisio sicrhau cyfleoedd...
GWAHODDIAD: Trafodaeth bord gron gyda Chomisiynydd Masnach Ei Mawrhydi ar gyfer America Ladin a rhanbarth Caribïaidd
Fe'ch gwahoddir i drafodaeth bord gron fach gyda Jonathan Knott, Comisiynydd Masnach Ei Mawrhydi dros America Ladin a rhanbarth Caribïaidd i drafod heriau a chyfleoedd sy'n wynebu busnesau o Gymru sy'n awyddus i dyfu eu busnes ym marchnad rhanbarth America Ladin a Caribïaidd. Bydd yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau – o dechnoleg i wyddorau bywyd i fwyd a diod a llawer mwy. Cynhelir y sesiwn drwy Microsoft Teams ddydd Mawrth 7 Rhagfyr o 14:00y.p. a...
Labelu alergenau rhagofalus a’r ymgynghoriad ‘gallai gynnwys’
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog busnesau heddiw i ymateb i’w hymgynghoriad ‘Gallai Gynnwys’ i helpu i ddatblygu ei dull darparu gwybodaeth ragofalus am alergenau yn y dyfodol. Nod yr ymgynghoriad, sy’n dod i ben ar 14 Mawrth, yw casglu safbwyntiau busnesau a defnyddwyr ar ddefnyddio labeli alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, sydd i’w gweld yn aml fel “gallai gynnwys” ar ddeunydd pecynnu bwyd. Mae gwybodaeth ragofalus am alergenau a/neu ddatganiadau i’r...
Gweminar Ynni: Oes gennych chi’r pŵer i ddewis?
Yn dilyn codiadau sylweddol mewn costau ynni yn 2021, mae'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn eich gwahodd i ymuno â gweminar ar-lein I ddefnyddwyr ynni fynd i'r afael â rhai o'r pynciau allweddol y gallai eich busnes fod yn eu gofyn eisoes Am ragor o wybodaeth cliciwch yma
BlasCymru / TasteWales
Mae Blas Cymru/Taste Wales yn cael ei drefnu gan yr Is-adran Fwyd bob dwy flynedd i ddod â chynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr o Gymru ynghyd i gwrdd â phrynwyr o'r DU a thu hwnt. Yn ogystal â'r elfen froceriaeth, bydd yna gynhadledd a ffair fasnach i hyrwyddo'r diwydiant bwyd a diod Cymru. Blas Cymru - Adroddiad o'r digwyddiad (Saesneg yn unig) Hoffech chi ddod i ddigwyddiad Blas Cymru 2021? Cofrestrwch eich diddordeb yma
Cefnogi diwydiant cynaliadwy
Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd. Mae’r uchelgais hon yn adlewyrchu’r brys a’r ymrwymiad a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac ymateb i ffocws cynyddol gan ddefnyddwyr i brynu cynhyrchion sydd â’r effaith...