Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot a gynhaliwyd yn yr hydref, bydd Sgiliau Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â GEP Environmental, yn cyflwyno cyfres o weithdai hyfforddiant datgarboneiddio yn gynnar yn 2023. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net i’r sector, Cymru, y DU a’r manteision byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr i wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr a rhoi newidiadau ar waith i’w strategaethau busnes, technoleg a dylunio prosesau yn eu holl arferion gwaith o ddydd i ddydd.
Cyflwynir y gweithdai ar-lein ac fe’u hariennir yn llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod. Maent yn rhyngweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth i gyfranogwyr rannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp ac yn caniatáu digon o amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr.
Un o’r busnesau a gwblhaodd y gweithdai prosiect peilot oedd Gwinllan Sticle, darllenwch am eu profiad o’r gweithdai a’u taith i Sero Net yma – Gwinllan Sticle – Sgiliau Bwyd Cymru
Gweithdai sydd ar ddod:
Dyddiad |
Teitl y Gweithdy |
10 Ionawr |
1: Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni |
12 Ionawr |
2: Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy |
17 Ionawr |
3: Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio |
19 Ionawr |
4: Datgarboneiddio Systemau Gwresogi |
25 Ionawr |
5: Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu |
27 Ionawr |
1: Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni |
31 Ionawr |
2: Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy |
2 Chwefror |
3: Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio |
7 Chwefror |
4: Datgarboneiddio Systemau Gwresogi |
9 Chwefror |
5: Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu |
14 Chwefror |
1: Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni |
16 Chwefror |
2: Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy |
21 Chwefror |
3: Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio |
23 Chwefror |
4: Datgarboneiddio Systemau Gwresogi |
7 Mawrth |
5: Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu |
9 Mawrth |
1: Effeithlonrwydd Ynni a Rheoli Ynni |
14 Mawrth |
2: Systemau Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy |
16 Mawrth |
3: Datgarboneiddio Systemau Oeri a Rheweiddio |
21 Mawrth |
4: Datgarboneiddio Systemau Gwresogi |
23 Mawrth |
5: Datgarboneiddio Gwastraff Bwyd a Phecynnu |
Mae pob gweithdy yn dechrau am 9.30am ac yn sesiwn 3 awr.
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y gweithdai cysylltwch â
www.sgiliaubwyd.cymru