Mae Miller Research yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddeall a phrofi ‘map systemau’ sydd wedi’i ddatblygu yn ddiweddar ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y map hwn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer llywio dyfodol polisi bwyd yng Nghymru. Yn benodol, bydd y map hwn o gymorth i ddatblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol yng Nghymru a’i nod yw annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.

Er mwyn rhoi’r map ar brawf a chefnogi’r gwaith o’i ddatblygu, byddwn yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein gan drafod ystod o themâu gan gynnwys:

  • Y system fwyd fasnachol
  • Iechyd y cyhoedd, deiet ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol
  • Diogeledd bwyd, yr amgylchedd a newid hinsawdd
  • Systemau bwyd cymunedol

Dydd Mawrth 23 & 30 Mai - 6yp, Dinasyddion bwyd actif, gwirfoddolwyr, tyfwyr anfasnachol

Dydd Mercher 24 Mai - 10yb, Sefydliadau perthnasol o'r trydydd sector (rhanddeiliaid amgylcheddol)

Dydd Mercher 24 Mai - 2yp, Sefydliadau trydydd sector seiliedig ar fwyd

Dydd lau 25 & 31 Mai - 6yp, Undebau Ffermio

Dydd lau 1 Mehefin - 10yb, Rhanddeiliaid o'r sector preifat

Dydd lau 1 Mehefin - 2yp, Rhanddeiliaid o'r sector cyhoeddus

Dydd Mercher 31 Mai - 2yp & Dydd Mawrth 6 Mehefin - 6yp, Rhanddeiliaid cynhyrchu garddwriaeth

 

Os ydych chi’n gweithio yn un o’r meysydd hyn neu’n angerddol amdanynt - anfonwch neges at jessica@miller-research.co.uk gan ddatgan eich diddordeb i ymuno â ni, neu cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan.

Disgwylir i weithdai gael eu cynnal drwy gydol mis Mai  a mis Mehefin. Bydd uchafswm o bobl a all gymryd rhan er mwyn sicrhau bod pawb ymhob grŵp yn cael y cyfle i fynegi barn.

 

CFS Workshop Flyer

Share this page

Print this page