Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran costau yn gadwyn gyflenwi, a rhagwelir y bydd hynny’n gwaethygu dros y misoedd nesaf. Mae Cymru Connect yn adnodd platfform caffael peilot sydd â’r nod o gefnogi cynhyrchwyr i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy effeithlon a chadarn. Mae’r llwyfan yn cael ei gynnal gan Canopy ac mae’n cynnwys gwybodaeth wedi’i dilysu am gyflenwyr. Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Her Adfer Covid.

Rydym yn chwilio am gyflenwyr fel chi i weithio gyda ni ar y cynllun peilot hwn a helpu i fynd i’r afael â’r heriau presennol o ran y gadwyn gyflenwi sy’n wynebu cynhyrchwyr o Gymru.

 Rydyn ni’n chwilio am gynhyrchwyr fel chi i weithio gyda ni ar y cynllun peilot hwn a manteisio ar arbedion effeithlonrwydd caffael a helpu i fynd i’r afael â’r heriau presennol sy’n wynebu cynhyrchwyr yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi.

Share this page

Print this page