Cyflwynir gan Mabbett & Associates. Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Mabbett & Associates. Trosolwg o'r Gweithdy Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar opsiynau o ran arbed ynni, sut i'w gweithredu, a'r risgiau a'r heriau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Ymhlith...
Cwrs Graddio Caws
Wedi’i gyflwyno gan Academy of Cheese ar ran Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a’r Clwstwr Bwyd Da; mae’r Cwrs Graddio Caws ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwell dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol a pherffeithio sgiliau graddio caws. Cyflwynir y cwrs gan Katy Fenwick, Rheolwr Prosiect Addysg gyda’r Academy of Cheese; arbenigwraig mewn addysg caws, gwyddor llaeth, technoleg, gwneud caws ac aeddfedu. Pynciau dan sylw: Gan ddefnyddio modelau sefydledig yr Academy of Cheese, bydd y cwrs...
Beth Yw Gwerth Eich Busnes?
Nid yw deall gwerth eich busnes bwyd neu ddiod yn ymwneud â pharatoi ar gyfer buddsoddiadau neu werthiant posibl yn unig. Mae’n ymwneud â chael dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae eich busnes yn perormio ar hyn o bryd, ei botensial ar gyfer twf, a gwneud penderfyniadau gwybodus i ysgogi’r twf hwnnw. Cofrestrwch am ddim yma: Beth Yw Gwerth Eich Busnes? Asesu gwerth eich busnes i fagu ei apêl
Gweinyddu TWE gan Ddefnyddio Meddalwedd Cyfrifo
Ydych chi'n gynhyrchwr bwyd neu ddiod sydd am symleiddio'ch gweinyddiaeth TWE? Mae'r gweminar hon wedi’i gynllunio’n benodol i gynnig mewnwelediadau arbenigol ar sut i reoli TWE yn fewnol gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifyddu blaenllaw. Cofrestwch am ddim yma: Gweinyddu TWE gan Ddefnyddio Meddalwedd Cyfrifo
Llywio TAW ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod
Mae deall TAW ar gyfer busnesau bwyd a diod yn aml yn fwy cymhleth nag y mae'n ymddangos ar y dechrau. Ymunwch â'n harbenigwyr ar y weminar hon i archwilio gweinyddiaeth TAW a rhoi cipolwg ymarferol ar reoli TAW yn eeithiol yn defnyddio eich systemau meddalwedd. Cofrestwch am ddim yma: Llywio TAW ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod
Expo Bwyd a Diod 2024
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Food & Drink Expo, Birmingham 29 Ebrill - 1 Mai 2024. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw 9 Chwefror 2024. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn stondin a'r costau ac am eich ffurflen gais i arddangos ar y stondin.
Gweithdai Datblygu Cynhrychion Newydd
A ydych chi’n bwriadu datblygu a lansio cynhyrchion newydd neu gynhyrchion wedi'u hailfformiwleiddio sy'n bodloni gofynion defnyddwyr, sy'n hyfyw yn ariannol, sy'n bodloni safonau diogelwch bwyd, ac sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau gwybodaeth bwyd diweddaraf? Os felly, bydd cyfres ZERO2FIVE o Weithdai Datblygu Cynnyrch Newydd yn eich tywys drwy'r dull Porth Llwyfan ar gyfer ddatblygu cynhyrchion newydd o’r cysyniad i’r lansiad. Cynhelir y gweithdai rhyngweithiol hyn, a ariennir yn llawn, yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yng...
Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Gweithdy Cychwyn Busnes: Ar gyfer busnesau bwyd a diod newydd
Bydd ein gweithdy cychwyn busnes yn mynd â chi drwy'r camau allweddol a'r ystyriaethau ar gyfer dechrau busnes bwyd a diod. Bydd y gweithdy hefyd yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a all eich helpu i droi eich syniadau yn realiti. Nod: I gefnogi unrhyw wneuthurwr bwyd neu ddiod NEWYDD, unrhyw un sy'n ystyried sefydlu fel gwneuthurwr Bwyd a Diod a'r rhai sy'n troi o wasanaeth bwyd i weithgynhyrchu. Rhaid i chi...
Calendr Digwyddiadau 2023 - 2024
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein Rhaglen Digwyddiadau/Ymweliadau Masnach y DU a Rhyngwladol 2023 - 2024
Cymorth lleihau gwastraff wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod Cymru
Trwy Brosiect HELIX, gall arbenigwyr lleihau gwastraff ZERO2FIVE gynnig amrywiaeth o gymorth wedi’i ariannu i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys: Archwiliadau gwastraff - nodi meysydd gwastraff ac atebion posibl i leihau neu ddileu gwastraff Adolygu a dilysu targedau gwastraff Dod o hyd i ddefnyddiau amgen ar gyfer cynhyrchion gwastraff Cysylltwch â nhw