Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru rhwng 10 a 14 Mawrth 2025, gan gynnig rhaglen gynhwysfawr a ddyluniwyd i ddarparu’r deallusrwydd a'r mewnwelediadau strategol diweddaraf o’r farchnad, i gefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru.

Bydd thema eleni ‘Byddwch ar y Blaen’ yn canolbwyntio ar nifer o brif feysydd: yr economi a busnes, tueddiadau defnyddwyr yn y dyfodol, datblygiadau manwerthu, y sector allan o’r cartref a chyfleoedd allforio. Bydd mynychwyr yn elwa o ddadansoddi arbenigol a chanllawiau ymarferol gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant, yn cynnwys:

  • Kantar Worldpanel - Mewnwelediadau i dueddiadau’r farchnad a defnyddwyr
  • IGD & Brookdale – Deiet y Dyfodol  
  • IGD - Tirwedd Manwerthwyr y DU
  • thefoodpeople - Elfennau sy’n amharu ar ddyfodol Bwyd a Diod 
  • CGA – Data mewnfasnach ac allan o’r cartref
  • Brookdale – Economi y DU 
  • Trafodaethau Panel – Arweinwyr diwydiant a busnesau o Gymru

Manylion cofrestru ar gael ar wefan Bwyd a Diod Cymru.

Mae deunyddiau cynhadledd y llynedd, 2024, ‘O Her i Lwyddiant’, gan gynnwys fideos a phecynnau sleidiau cyflwyniadau, ar gael i'w gweld yn yr Adran Aelodau:

Cynhadledd Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru 2024: O Her i Lwyddiant | Busnes Cymru - Bwyd a diod (gov.wales)

Share this page

Print this page