Lleoliad: Ar-lein (Google Meet)

Dyddiad: 4.03.2025

Amser: 9:30am – 12:00pm

Cyflwynir gan Arthian Cyf.

Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio a symud tuag at Sero Net. Fe’u cyflwynir gan Arthian Cyf.

Trosolwg o'r Gweithdy

Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar y defnydd o systemau oeri a rheweiddio, oeri gofod, mannau cynhyrchu / storfa oer, ac oeri prosesau. Bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth hanfodol am oeryddion sy'n perfformio waethaf. 

Ymhlith y pynciau dan sylw mae:

  • Systemau oeri / rheweiddio
  • Nwy-F
  • Rheoli Ynni
  • Dileu Rheweiddio
  • Opsiynau o ran arbed ynni, gan gynnwys sut gallai llwytho’n gywir mewn cabinet arwain at arbediad o 10 i 20%.

Canlyniadau Dysgu:

  • Byddwch yn ymwybodol o’r angen i symud y sector Bwyd a Diod tuag at Sero Net, a sut mae systemau oeri a rheweiddio yn gallu cefnogi hyn. 
  • Byddwch yn gyfarwydd ag amrywiaeth o gamau gweithredu mewn perthynas â datgarboneiddio systemau oeri a rheweiddio y gallwch chi eu rhoi ar waith i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio a faint o allyriadau carbon sy’n cael eu rhyddhau.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r ffyrdd ymarferol o roi’r gwahanol gamau i ddatgarboneiddio systemau oeri a rheweiddio ar waith. Byddwch hefyd yn gallu dweud a allai’r camau hyn fod yn ymarferol oddi mewn i’ch sefydliad.
  • Byddwch yn gallu dweud wrth eraill sut y bydd camau i ddatgarboneiddio systemau oeri a rheweiddio yn cefnogi eich sefydliad gyda'i broses ddatgarboneiddio.

Bydd y gweithdai’n digwydd ar-lein ac maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu ym maes bwyd a diod.

Maen nhw’n weithdai rhagweithiol ac yn caniatáu digon o drafodaeth er mwyn i’r rhai sy’n cymryd rhan allu rhannu eu profiad eu hunain trwy sesiynau grŵp. Bydd hefyd amser i ofyn cwestiynau i'r arbenigwyr. 

Ar ôl y gweithdy, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu mynd i sesiwn un-i-un 30 munud o hyd – sy’n rhad ac am ddim – gyda thiwtor y cwrs.

Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallwch chi roi’r newidiadau hyn ar waith i’ch busnes yma:

Gweithdai Datgarboneiddio / Decarbonisation Workshops

 

Share this page

Print this page