Lleoliad: Ar-lein (Google Meet)
Dyddiad: 23/04/25
Amser: 9:30 yb
Hyfforddiant Cynaliadwyedd i Gwmnïau Bwyd a Diod
Mae’r cwrs hyfforddi hwn wedi ei deilwra i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i berchnogion a rheolwyr cwmnïau bwyd a diod i adeiladu cynlluniau ymarferol sy’n ymateb i newid hinsawdd a’r argyfwng byd natur, ac yn bodloni gofynion cwsmeriaid.
O ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ogystal â galw sylweddol yn y farchnad, mae prynwyr a defnyddwyr yn gynyddol yn chwilio am gynyrch a chwmnïau sydd yn ymdrechu i gyrraedd perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r mynychwyr i wneud y newidiadau yn eu busnes.
Cynnwys Cwrs
Sut i addasu i gostau cynyddol egni a lleihau allyriadau carbon
Deall cysyniadau allweddol yn cynnwys Sero Net, Strategaeth Economi Gylchol, Gwerth Cymdeithasol yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Fframwaith Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Sut i alinio ag amcanion cynaliadwyedd prynwyr masnach, gan gynnwys manwerthwyr a gwasanaethau bwyd
Sut i gyfleu arfer da mewn ffyrdd sydd yn gwrthsefyll craffu
Ymchwilio gwahanol labeli a chynlluniau ardystiedig i adnabod beth fyddai’n addas ar gyfer eich busnes
Fformat
Wedi’i gyflwyno ar-lein, fel cyfres o 5 sesiwn wythnosol wedi eu harwain gan diwtor rhwng 09:30 – 12:30. Bydd y garfan nesaf yn dechrau dydd Mercher 23ain o Ebrill 2025.
Mae’r hyfforddiant yn cael ei arwain gan Ecostudio, hyfforddwyr blaenllaw ar gynaliadwyedd a diwydiant, a Cynnal Cymru.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael mynediad unigryw i:
Offer ryngweithiol i asesu a meincnodi eich perfformiad cynaliadwyedd
Dulliau profedig i ddatblygu cynllun cynaliadwyedd i’ch busnes
Arweiniad arbenigol a chefnogaeth penodedig 1-i-1
I gymeryd mantais o’r hyfforddiant AM DDIM hwn, mae angen mynychu a chwblhau’r 5 sesiwn a’r tasgau gofynnol.
Dyddiadau Cwrs: Ebrill 23, 30 a Mai 7, 14, 21 2025.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth am y gweithdai: sgiliau-cymru@mentera.cymru