Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn  ymweliad datblygu masnach bwyd a diod a Ffrainc.

Yn dilyn llwyddiant Llywodraeth Cymru ynghlwm â SIAL 2022, mae cyfle gwych i gwmnïau Bwyd a Diod Cymru fynd ati i allforio’u cynnyrch i Ffrainc. Ffrainc ydy’r ail farchnad allforio fwyaf ar gyfer Bwyd a Diod Cymru, gyda chyfanswm gwerth o £100m yn 2021 sy’n gynnydd o £72m ers y flwyddyn flaenorol. Y categori allforio mwyaf gwerthfawr oedd Cig a Chynnyrch Cig oedd yn £68m, ac yna Grawnfwydydd a Pharatoadau Grawnfwyd oedd yn £9m. Bu i’r DU allforio gwerth £2.3biliwn o nwyddau bwyd a diod i Ffrainc yn 2021. Bu cynnydd o 21.2% yng ngweithgarwch mewnforio nwyddau yn Ffrainc yn 2021, ac maen nhw’n meddu ar y 5ed farchnad bwyd pecyn mwyaf yn y byd.

Share this page

Print this page