Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn esbonio'n fras ychydig o faterion cyfreithiol sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohono, ac yna dangos i chi sut i ddefnyddio Mailchimp
Mae gwir ystyr eich brand yn eistedd y tu ôl i'r logo. Yn y sesiwn yma byddwn yn trafod beth mae'n ei olygu i adeiladu brand, pam fod angen un a sut i greu brand bwyd a diod eich hun.
Wrth i ddiwedd y cyfnod pontio agosau, mae amser yn brin i ddechrau gwneud paratoadau. Clinigau wythnosol bob dydd Mawrth yn dechrau ar 17 Tachwedd 2020.
Mae recriwtio ar gyfer Ymweliad Datblygu Masnach Rhithwir UAE newydd gau. Mae'r Is-adran Fwyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfannau Busnes Prydain (BCB) yn Dubai gyda'r ymweliad rhithwir wedi'i drefnu yn ystod Hydref/Tachwedd 2020.
Rhan o gefnogaeth y llywodraeth i fusnesau yn ystod y pandemig fu rhyddhau'r lefelau uchaf erioed o gyllid dyled i'r economi i helpu busnesau i fasnachu trwy'r argyfwng. Ymunwch a'n panel o arbenigwyr cyllid ecwiti i ddarganfod mwy.
Bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus rhithiol ar ei Chynllun Gweithgynhyrchu. Bydd y cynllun yma’n seiliedig ar egwyddorion Ffyniant i Bawb a’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi ac yn amgyffred gwersi a ddysgwyd wrth ddelio â phandemig Covid-19.
Mae cael cyngor cywir am strwythur, treth a TAW yn rhagofyniad ar gyfer llwyddiant. Os ydych chi, fel llawer o fusnesau bwyd neu ddiod, weithiau yn ansicr sut mae'r rheolau TAW ar fwyd a diod yn gweithio, neu yn poeni am brisio ar systemau EPOS, ar lein a chael y wybodaeth reoli a all gysoni'r elfennau hyn, yna mae'r weminar hon ar eich cyfer chi.
Bydd y weminar hon yn tynnu sylw at y gwahanol fodelau e-fasnach ac yn trafod modelau prisio a maint yr elw i sicrhau bod eich model e-fasnach yn ychwanegu at, yn hytrach na thynnu oddi wrth eich proffidioldeb.
Poeni am arian parod fu’r prif bryder i’r mwyafrif o fusnesau b bwyd neu ddiod yn ystod y misoedd diwethaf, ac am reswm da. Mae’r “Cash is king” yn ymadrodd sy’n wir pan mai prif achos methiant busnes fel arfer yw diffffyg arian parod. Mae rheoli arian parod a hylifedd yn mynd i fod yn rhagofyniad i fusnesau bwyd a diod symud o oroesi, adfywio drwodd i ffffynu. Cofrestrwch yma