Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan fanner Cymru yn sioe SIAL, Paris 21 - 25 Hydref 2018. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 18 Mai 2018.
Digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth 'rhydd rhag'
Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim yn cwmpasu materion allweddol yn ymwneud â bwyd a diod 'rhydd rhag' gan gynnwys dadansoddi'r farchnad, gwybodaeth arwyddocaol i ddefnyddwyr, ystyriaethau technegol a thueddiadau'r dyfodol. Mae'r farchnad 'rhydd rhag' bwyd a diod yn ffynnu yng Nghymru a Phrydain Fawr gan fod nifer y bobl sydd â symptomau o anoddefiad bwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyma eich cyfle i ddod o hyd i ragor o wybodaeth...
Bwyd a Diod Cymru Cwrdd a'r Buddsoddwr - De Cymru
Ydych chi'n chwilio am fuddsoddiad neu gyllid ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Bwyd a Diod Cymru Cwrdd a'r Buddsoddwr - Gogledd Cymru
Ydych chi'n chwilio am fuddsoddiad neu gyllid ar gyfer eich busnes bwyd neu ddiod?
Cadwch y Dyddiad: Trosglwyddo Gwybodaeth Protein Gwyrdd
Nod y digwyddiad hwn yw trafod materion allweddol sy'n ymwneud â ffynonellau protein, gyda mewnwelediadau gwerthfawr i agweddau defnyddwyr ac i archwilio rhai o'r proteinau arall sydd ar gael yn cynnwys chwyn môr ac algâu.
Cynllun Peilot Grant Cyfieithu Iaith Dramor
Rydym yn cydnabod fod yr angen i gael deunydd gwerthu a marchnata, pecynnu i gynnyrch, gwefan, ac ati ar gael yn iaith marchnad y cyrchfan allforio yn gallu bod yn ddrud ac felly’n rhwystr i sicrhau archebion allforio. Felly, rydym yn treialu grant bach i helpu anghenion cyfieithu 20 o fusnesau.
Seminar Brecwast Y Clwb Allforio
O fis Mai bydd Maes Awyr Caerdydd yn hedfan yn ddyddiol i Qatar. Drwy'r gwasanaeth newydd hwn bydd fwy o gyfleoedd allforio yn codi yn Qatar a'r Dwyrain Canol.
Cynllun Grant Tŵf Busnes Strategol ar gyfer 2018 /19
A ydych yn drefnydd neu’n ymwneud gyda gwyliau a digwyddiadau bwyd? Dyma gyfle i chi fynychu gweithdy i gael gwybod mwy ynghylch cynllun Cyllid fydd ar ar gael ar gyfer 2018/19.
Cynllun Grant Tŵf Busnes Strategol ar gyfer 2018 /19
A ydych yn drefnydd neu’n ymwneud gyda gwyliau a digwyddiadau bwyd? Dyma gyfle i chi fynychu gweithdy i gael gwybod mwy ynghylch cynllun Cyllid fydd ar ar gael ar gyfer 2018/19.
Gulfood 2018
Mae recriwtio bellach wedi cau. Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Gulfood, Dubai 18 Chwefror - 22 Chwefror 2018. N odwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r Medi 27, 2017. Dewch o hyd i fanylion llawn y pecyn a chostau stondin ynghyd â'ch ffurflen gais i arddangos ar y stondin