Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn arddangos yn FHA, Bwyd a Diod Singapore 2026. Bydd y sioe yn cael ei chynnal rhwng 21-24 Ebrill 2026 yn Singapore Expo.
Sylwer, mae chweched arddangosfa ProWein Singapore, sy'n rhan o Gyfres ProWein y Byd o ffeiriau masnach gwinoedd a gwirodydd blaenllaw, hefyd yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ar yr un pryd.
Mae ceisiadau nawr ar agor os hoffech le ym mhafiliwn Cymru Wales. Mae'r cyfle hwn yn agored i unrhyw fusnesau bwyd a diod o Gymru sy'n allforio ar hyn o bryd, neu sydd â diddordeb mewn allforio i Singapore, De-ddwyrain Asia neu Asia a'r Môr Tawel. Mae rhagor o fanylion am y pecynnau cymorth sydd ar gael i'w gweld yn y taflenni a atodwyd.
Os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, e-bostiwch shona.hutchinson@llyw.cymru.
Os hoffech gael eich ystyried, anfonwch e-bost at Shirley.mcgilvray@llyw.cymru / Kelly.divry@llyw.cymru i gael ffurflen gais.